Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Yn bellach i hynny, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna oedi hir wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf ar y Kingsway, ac mae prif ffrwd canol dinas Abertawe wedi mynd i edrych braidd yn llwm. Mae yna nifer o brosiectau, ac rydych chi wedi cyfeirio at un, sydd ddim jest i wneud â’r cyngor lleol ond, wrth gwrs, i wneud â’r Llywodraeth yn fan hyn. Felly, a allaf wthio arnoch chi yn bellach i ofyn pa ddylanwad sydd gyda chi i brysuro’r gwaith cyfamserol hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd i adfywio’r Kingsway yn Abertawe?