Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i fy nghyd-Aelod am ddod â’r mater hwn i sylw’r Siambr, a hefyd am gyfraniad Jenny Rathbone. Fe wnaethoch eich dwy eich safbwyntiau a’ch pwyntiau yn glir iawn ynglŷn â’r penderfyniad a wnaed gan Brifysgol Caerdydd.
Credaf ei bod yn bwysig dechrau drwy gydnabod effaith clefyd y galon. Rydym wedi clywed yn ddiweddar, ac unwaith eto wedi atgoffa ein hunain yn y Siambr heddiw, fod dementia yn awr yn cael ei gydnabod fel lladdwr mwy, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd i wella canlyniadau i bobl sydd â chlefyd y galon yn ogystal ag atal pobl rhag dioddef clefyd y galon yn y lle cyntaf. Rwy’n ddiolchgar i Julie Morgan am dynnu sylw at yr effaith bwysig y mae gwaith ymchwil wedi ei chael ar wella canlyniadau i gleifion sydd â chlefyd cardiofasgwlaidd.
Yn yr achos penodol hwn, bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn gwybod na all Llywodraeth Cymru gyfarwyddo’r brifysgol i ddad-wneud y penderfyniad a wnaethant, ond wrth gwrs mae’r cyfle i gael y dadleuon hyn yn golygu llawer mwy na rhoi neges i’r Llywodraeth. Ond rwy’n awyddus i gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed eisoes ac sy’n parhau i gael ei wneud gan Sefydliad Prydeinig y Galon, ac rwy’n falch o weld eu bod yn parhau i fuddsoddi mewn ymchwil yng Nghymru gydag agoriad uned ymchwil newydd ar y ffordd yn ysgol feddygol Prifysgol Abertawe. Gwn y bydd yr uned yn Abertawe yn weithredol yn gynnar y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y brifysgol a’r deon am fanylion yr ymchwil a fydd yn parhau yno. Rwyf am longyfarch Prifysgol Abertawe ar ddatblygu eu gallu eu hunain mewn ymchwil cardiofasgwlaidd, ac edrychaf ymlaen at ddilyn eu llwyddiant yn y maes hwn yn y dyfodol.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon, wrth gwrs, wedi bod, ac yn parhau i fod yn bartner cryf mewn ystod o fentrau traws-ariannol megis y fenter ymchwil atal genedlaethol a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU. Mae’r mentrau hyn wedi buddsoddi’n eithaf sylweddol mewn ymchwil a gyflawnir yng Nghymru. Yn awr, drwy gynnal y partneriaethau hynny, a thrwy ein buddsoddiad a’n darpariaeth ymchwil mewn lleoliadau gwasanaeth iechyd, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi ymdrechion Sefydliad Prydeinig y Galon a’u partneriaid ymchwil i wella diagnosis, triniaeth a chanlyniadau iechyd i bobl Cymru. Unwaith eto, rwyf am gydnabod bod rhan sylweddol o gyfraniad Julie Morgan wedi cydnabod yr angen i barhau yn y maes hwn.
O safbwynt Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i gefnogi ymchwil y galon mewn nifer o ffyrdd, ac efallai y gallaf egluro rhai o’r pethau rydym yn ei wneud i’r Siambr. Yn ddiweddar, rydym wedi penodi arweinydd arbenigedd Cymru ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd, Dr Zaheer Yousef o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bydd Dr Yousef yn gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i hyrwyddo ymchwil cardiofasgwlaidd yn y GIG ac i gynyddu nifer y treialon clefyd y galon sy’n agored i gleifion ar draws Cymru. Dyna nodwedd reolaidd o’r galw gan y cyhoedd ac ystod o bartneriaid a hyrwyddwyr trydydd sector. Fel yr arweinydd arbenigedd ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd, bydd Dr Yousef hefyd yn cael cyllid i gefnogi gweithgaredd y grŵp datblygu ymchwil ac i nodi cwestiynau ymchwil pwysig pellach a dod o hyd i’r arian sydd ei angen i’w hateb. Felly, unwaith eto, mae yna gydnabyddiaeth na fydd yr ymchwil yn dod i ben yn ardal Caerdydd gyda’r penderfyniad y mae’r Aelod yn ei nodi.
Trwy’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, a gafodd ei chydnabod, unwaith eto, gan Julie Morgan, byddwn hefyd yn cyllido grŵp datblygu ymchwil ar ddata presgripsiynu a gweinyddu sy’n canolbwyntio ar gwestiynau ymchwil cardiofasgwlaidd a’r arennau. Trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, byddwn yn parhau i roi cyfleoedd i ymchwilwyr cardiofasgwlaidd drwy ein cynlluniau ariannu cenedlaethol agored a adolygir gan gymheiriaid. Ar hyn o bryd rydym yn ariannu nifer o brosiectau sy’n berthnasol i glefyd y galon gan ganolbwyntio ar ffactorau ffordd o fyw a chanlyniadau iechyd gwell.
Yma, wrth gwrs, fel gwlad, mae gennym hanes cyfoethog o ddefnyddio tystiolaeth ymchwil i wella bywydau pobl, er enghraifft, gwaith a dylanwad Archie Cochrane, a chreu carfan clefyd y galon Caerffili. Carfan Caerffili yw’r astudiaeth hwyaf o’i bath mewn gwirionedd, ac mae wedi ysbrydoli mwy na 400 o bapurau ymchwil ac astudiaethau pellach ledled y byd. Mae’r gwersi rydym wedi eu dysgu gan y grŵp hwnnw o bobl, y grŵp rhyfeddol hwnnw o ddynion sydd wedi rhoi llawer o’u data a’u diddordeb am y ffordd y maent yn byw eu bywydau a’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar eu canlyniadau iechyd, wedi dweud llawer iawn mwy wrthym nag elfen gardiofasgwlaidd y canlyniadau iechyd yn unig—y ffactorau dylanwadol y gallai pob un ohonom eu cael ar ein canlyniadau iechyd tebygol ein hunain yn y dyfodol.
Rwy’n cydnabod yr hanes sydd wedi bod i’r uned benodol hon yng Nghaerdydd, yr arwyddocâd o ran cof y cyhoedd, ac ymlyniad ystod eang o bobl tuag at y ganolfan. Yn arbennig, cyn i mi orffen, rwyf am gydnabod cyfraniad ystod eang o bobl yn cyfrannu at yr allbwn ymchwil y tynnodd Julie Morgan ein sylw ato heddiw. Ond rydym ni, fel Llywodraeth, yn awyddus i adeiladu ar yr hanes hwnnw ac i ailennyn diddordeb y boblogaeth mewn gwaith ymchwil, a dyna pam rydym yn sefydlu Doeth am Iechyd Cymru, sy’n gobeithio cynnwys pawb yng Nghymru yn y gwaith o wella iechyd a lles y boblogaeth. Byddwn yn annog aelodau o’r Siambr hon, yn ogystal—gallwch chi hefyd fod yn gysylltiedig fel rhan o’r cyhoedd ac ymuno â’r fenter ymchwil honno. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud mewn gwirionedd a llawer y gallwn wella arno yng Nghymru hefyd. Bydd clefyd y galon yn parhau i fod yn faes diddordeb a buddsoddiad sylweddol o safbwynt y Llywodraeth, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid yn ein sector prifysgol, o fewn y GIG, a’r trydydd sector hefyd, a pharhau i wella canlyniadau ac allbwn ymchwil ar gyfer pobl ledled Cymru. Unwaith eto, diolch i Julie Morgan am dynnu sylw at y pwnc hwn ac am ei gyflwyno gerbron y Siambr.