Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy’n cynnig y cynnig a gyflwynwyd gan Paul Davies AC, sy’n galw am gydnabod y gwerth aruthrol y mae ein haelodau hŷn yn ein cymunedau yn ei gyfrannu tuag at ein heconomi, ond hefyd i gydnabod yr anghenion y maent yn eu haeddu yn awr i’w cynorthwyo, gobeithio, i fyw bywydau hir a llawn.
Mae pobl yn byw’n hirach—i’w 80au, 90au, a hyd yn oed yn hwy. Maent wedi mynd ymhellach, i greu cyfoeth o dros £1 biliwn i’n heconomi drwy ofal di-dâl, gwaith cymunedol, cynorthwyo teuluoedd a rolau gwirfoddoli. Mae gwarant clo triphlyg Llywodraeth y DU ar bensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn golygu bod pensiynwyr yn awr £1,125 yn well eu byd bob blwyddyn ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhannu uchelgais Llywodraeth y DU i wella bywydau pobl hŷn yn barhaus yma yng Nghymru, a thrwy ein dadl heddiw, rydym yn gwahodd y Siambr hon i wneud yr un peth.
O 2012 i 2030, rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 oed neu hŷn yng Nghymru yn cynyddu 292,000. Fy awdurdod lleol yng Nghonwy sydd â’r gyfran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru, ac maent yn ffurfio 26 y cant o’r boblogaeth. Oes, mae yna amrywio demograffig ar draws Cymru, ond rydym yma i ymladd dros bawb yr ystyrir eu bod yn bobl hŷn yn ein cymdeithas. Mae arnom angen atebion arloesol ac ymarferol i’r problemau sy’n wynebu ein pobl hŷn ar draws ein cenedl.
Un maes allweddol y mae’n rhaid i ni ei wella yw mynediad at y gwasanaethau hanfodol sy’n ofynnol i ddarparu’r ansawdd bywyd y maent yn ei haeddu. Mae mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd yn allweddol, mae mynediad ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu synhwyrau’n hanfodol, ac mae mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl sydd wedi colli eu cof yn hanfodol. Wrth ddweud ‘mynediad’, yr hyn rwy’n ei olygu yw hawdd gyda chyfeirio da, peidio â gorfod wynebu anhawster wrth lywio eich ffordd o gwmpas gwasanaethau sydd ar gael mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae 33 y cant o bobl hŷn yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd iawn gwneud apwyntiad cyfleus mewn gofal sylfaenol. Rydym yn gwybod bod pobl hŷn yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan iechyd gwael; mae 36 y cant yn dweud bod hyn yn cyfyngu ar eu gweithgarwch o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym yn ffodus iawn yma yng Nghymru i gael comisiynydd pobl hŷn sy’n amlwg mor angerddol ynglŷn â sefyll dros hawliau, anghenion a lles ein cenedlaethau hŷn.
Yn ddiweddar, amlygwyd pwysigrwydd y ffaith fod arwahanrwydd ac unigrwydd yn cael eu gweld yn risg i iechyd y cyhoedd, gyda thros hanner y rhai 75 oed bellach yn byw ar eu pen eu hunain, a 63 y cant o bobl 80 oed a hŷn yn dweud eu bod yn teimlo’n unig drwy’r amser. Rhybuddiodd y comisiynydd hefyd ynghylch honiadau difrifol iawn yn ymwneud â phrofiadau pobl hŷn wrth iddynt gael gofal iechyd a thriniaeth. Y mis hwn, rwyf wedi cymryd rhan mewn dau adroddiad lles y cyhoedd gan yr ombwdsmon sydd wedi tynnu sylw at ofal annigonol, gofal annigonol difrifol, a methiant systematig ar ran Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a hefyd o ran darparu triniaeth i gleifion hŷn, gan gynnwys aros 132 wythnos am driniaeth canser.
Polisïau fel yr agenda gofal yn y gymuned: pan ymddangosodd yr agenda, rwy’n credu bod pawb ohonom wedi ei chroesawu, ond rwy’n ofni bod gwelyau wedi cael eu tynnu o’n wardiau ysbyty wrth ragweld yr agenda hon. Ac mae hynny wedi digwydd mewn gwirionedd heb fod y staff a’r seilwaith cymunedol yn weithredol. Bellach mae gennym brinder amlwg o ffisiotherapyddion, nyrsys ardal, gweithwyr cymorth, a therapyddion galwedigaethol. Felly, yn y bôn, maent wedi rhoi’r drol o flaen y ceffyl mewn gwirionedd o ran y gefnogaeth. Yn awr mae gennym fwlch real ac enfawr o ddiffyg gofal.
Mae cartrefi gofal yn cau yn awr ledled Cymru, ac rydym wedi colli rhai yng Nghonwy yn ddiweddar—gwelyau salwch meddwl i’r oedrannus na allwn ddod o hyd i rai eraill yn eu lle—cleifion a theuluoedd yn cael mis yn unig i ddod o hyd i leoliad newydd sy’n aml filltiroedd i ffwrdd bellach o’r cymunedau y maent wedi byw, gweithio, a thyfu i fyny ynddynt, cymunedau y maent yn eu caru; yn aml cânt eu symud filltiroedd i ffwrdd.
Mae blocio gwelyau gan bobl sy’n aros am welyau i henoed bregus eu meddwl mewn cartrefi gofal yn rhemp. Bu’n rhaid i un o fy etholwyr aros am 18 mis mewn gwely ysbyty—[Torri ar draws.] Yn hollol—yn aros am ddarpariaeth i henoed bregus eu meddwl. Yn wir, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 79 y cant o gleifion 65 oed a hŷn wedi profi oedi enfawr wrth drosglwyddo gofal: roedd 54 y cant o’r rhain yn oedi o ganlyniad i ofal yn y gymuned, dewis cartrefi gofal, neu’n aros i gartref gofal ddod ar gael. Erys diffyg integreiddio amlwg rhwng iechyd a gofal cymdeithasol—y dywedir mor aml yma ei fod yn symud ymlaen, ond nid yw’n digwydd ar lawr gwlad.
Mae Cronfa’r Brenin wedi rhybuddio bod arosiadau hirach yn yr ysbyty yn arwain at risg uwch o haint, hwyliau gwael a theimladau o ddiffyg hunan-barch a sefydliadaeth, gyda llawer o’n cleifion oedrannus sydd mewn ysbytai mewn gwirionedd yn colli eu holl synnwyr o amser—pa ddiwrnod yw hi, pa fis yw hi, a hyd yn oed pa flwyddyn yw hi—ac nid yw hynny’n iawn. Mae gofal canolraddol wedi canfod bod oedi yn yr ysbyty o ddau ddiwrnod yn unig yn negyddu budd ychwanegol gofal canolraddol. Tra byddant yn yr ysbyty neu mewn gofal, gall yr henoed fod mewn perygl arbennig o ddadhydradu, sy’n aml yn arwain at ddryswch, briwiau pwyso, cwympiadau, a heintiau wrin. Heddiw, cawsom grŵp trawsbleidiol rhagorol ar sepsis a sut i’w atal, diffyg ymwybyddiaeth ohono a nifer y cleifion a phobl sy’n awr yn gwbl anymwybodol o beryglon sepsis. Ac mae hwnnw’n effeithio ar bobl o bob oedran a phob cenhedlaeth, ond mae’n arbennig o beryglus yn yr henoed.
Cynyddodd ymgyrch beilot ar negeseuon hydradu nifer yr ymwelwyr a ddôi â diodydd i mewn ar gyfer perthnasau o 18 y cant i 63 y cant, ond nid yw’n ddigon. Rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio’n agos i hyrwyddo ymgyrch Dŵr yn eich Cadw’n Iach GIG Cymru ar draws pob ysbyty yng Nghymru, a chynllun Gwydr Llawn, a dreialwyd yng Ngwent.
Gwelodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, fod cael bwyd maethol ac apelgar yn rhan hanfodol o wella. Rwyf wedi cael profiad uniongyrchol lle y gallaf ddweud wrthych fod maeth a hydradu yr un mor bwysig â meddyginiaeth.
Roedd adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gynharach eleni yn amlygu’r problemau a wynebir o ran sicrhau hydradu a maeth digonol mewn ysbytai y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae angen monitro priodol ac anogaeth gan staff a theuluoedd. Rwyf am nodi pwynt ar hynny: yn eithaf aml dywedir wrthym, ‘Os gofynnwn iddynt a ydynt eisiau diod neu a ydynt am fwyta a’u bod yn dweud "na", nid oes hawl gennym i’w gorfodi’. Rwy’n aml wedi dweud y gallwch annog rhywun; gallwch gymell rhywun. Mae yna wahanol ffyrdd os yw rhywun yn rhoi ei feddwl ar waith ac nid oes digon o ffocws ar hyn mewn gwirionedd.
Mae ein cynnig yn galw ar Gymru i ddod yn genedl sy’n ystyriol o ddementia. Ar hyn o bryd mae mwy na 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia—ac mae disgwyl i hynny godi i fwy na 55,000 erbyn 2021 a thros 100,000 erbyn 2055. Dyma brif achos marwolaeth ym Mhrydain bellach, ar 11.6 y cant o’r holl farwolaethau a gofnodwyd, ac eto gan Gymru y mae’r gyfradd ddiagnosis isaf yn y DU gyfan—43 y cant yn unig o’r rhai sydd â dementia sydd wedi cael diagnosis ffurfiol, o gymharu â 64 y cant yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi buddsoddi £50 miliwn mewn creu amgylcheddau sy’n ystyriol o ddementia, gan hyfforddi dros 500,000 o staff y GIG. Dyna sut y mae ei gydnabod a dyna sut i roi camau ar waith, ac rydym am weld gweithredu o’r fath yma yng Nghymru.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi hyfforddi dros 500 o hyrwyddwyr dementia yn y GIG—gallwn gael rhai felly yn y GIG yng Nghymru—ac 800 o lysgenhadon dementia mewn cymunedau lleol: rhai o’r rheini yma, os gwelwch yn dda. Eto i gyd, yng Nghymru, dim ond 32 o weithwyr cymorth dementia wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd yna ledled y wlad gyfan, ac mae’n arswydus na chafodd un o bob 10 o’r rhai a gafodd ddiagnosis unrhyw gymorth o gwbl yn y flwyddyn gyntaf ar ôl eu diagnosis. Dychmygwch y galar a wynebant; dychmygwch y straen ar eu teuluoedd. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r arloesedd a welwyd yng ngwledydd eraill y DU i fynd ati’n rhagweithiol i gynnig un pwynt cyswllt yn syth ar ôl diagnosis a sicrhau bod gan yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol ddigon o wybodaeth am y cyflwr hwn sy’n newid bywydau. Mae’r rhai sy’n gweithio i edrych ar ôl ein pobl hŷn yn y sector gofal iechyd yn aml iawn yn gwneud gwaith rhagorol, gwaith sy’n galw am empathi, tosturi, amynedd a dealltwriaeth eithriadol. Fodd bynnag, maent angen ein cefnogaeth. Mae adroddiad y Sefydliad Iechyd yn ddiweddar wedi datgan y bydd angen dyblu’r arian sy’n mynd tuag at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf er mwyn darparu capasiti i ofalu am bobl o bob oed yng Nghymru.
Mae dadl heddiw’n canolbwyntio ar sut y gallwn helpu i gefnogi ein pobl hŷn a gwerthfawr iawn yn ein cymuned, pobl sydd wedi dod drwy’r rhyfel, wedi wynebu newyn a dognau ac wedi sefyll yn falch i amddiffyn y wlad i ganiatáu’r rhyddid—wyddoch chi, i mi allu sefyll yma a mynegi fy hun. Mae yna agweddau eraill ar y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau fy nghyd-Aelodau ac Aelodau eraill ar draws y Siambr hon. Diolch yn fawr.