Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl yma, dadl sydd yn un bwysig, ac i gynnig y gwelliannau yn fy enw i. Rydym ni’n sicr yn croesawu’r ddadl yma heddiw. Rydym ni’n cefnogi llawer o eiriad y cynnig, ond yn sicr y cyfan o’r sentiment y tu ôl iddo fo.
Yn rhy aml, rydw i’n meddwl, pan fo hi’n dod i ddadleuon am sut i ddarparu gofal a gofal cymdeithasol ac ati i boblogaeth hŷn y dyfodol, mae rhywun yn gallu teimlo nad yw cyfraniad pobl hŷn eu hunain yn cael ei gydnabod. Mae’r drafodaeth yn aml yn un am sut ydym ni’n ariannu gofal pobl hŷn, ac mae hynny, rydw i’n meddwl, yn anfwriadol yn gallu creu’r argraff bod pobl hŷn, fwy na dim, yn rhyw dreth ar gyllid cyhoeddus ac yn dreth ar gymdeithas. Felly, mae’n werth, rydw i’n meddwl, imi wneud y canlynol yn glir a diamwys: nid problem ydy pobl hŷn, nid draen economaidd neu ddraen o unrhyw fath arall. Maen nhw’n gwneud cyfraniadau hynod werthfawr i’n cymdeithas ni. Rwy’n gobeithio bod yn un fy hun ryw ddiwrnod.
Mae darparu gofal gweddus, addas sy’n cynnal iechyd ac urddas ein poblogaeth hŷn ni yn rhan o’r contract cymdeithasol a ddylai fyth gael ei ystyried fel opsiwn gan Lywodraeth na neb arall. Mae’n aml yn rhywbeth sy’n cael ei anwybyddu bod pobl dros 65 oed yn gwneud cyfraniad sylweddol yn economaidd o hyd, a chymdeithasol, i Gymru. Maen nhw’n darparu gwerth rhyw £260 miliwn o ofal plant am ddim i wyrion ac wyresau a rhyw £0.5 biliwn mewn gwaith gwirfoddol. Felly, mi allwn i restru yn helaethach y cyfraniadau sy’n cael eu gwneud, ac os oes yna bwynt yn dod lle mae yna gost am edrych ar ôl pobl hŷn, peidied byth ag anghofio’r cyfraniad a wnaed yn gynharach yn ystod bywydau pobl hŷn.