Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gyflwyno fy nadl fer gyntaf.
Dywedwyd ar ddiwedd y 1970au pe bai pob cwmni bach yn cyflogi un gweithiwr arall y byddai problem diweithdra yn cael ei datrys. Yn wir, gyda 4.2 miliwn o gwmnïau bach yn y DU byddai ein meddyliau’n troi yn fuan at broblem prinder llafur. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Thatcher, yn y 1980au, wedi bod yn lled o ddifrif ynglŷn â’r honiad hurt hwn ac am gyfnod clywsom am yr economi fenter yn dod i’n hachub wrth i ddiwydiant traddodiadol gael ei anghofio’n strategol. Credaf fod gan gwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru y potensial i gyfrannu at dwf a datblygiad ein heconomi er hynny. Fodd bynnag, nid wyf o dan unrhyw gamargraff y byddant yn datrys ein holl broblemau, ac ni fyddant, ar eu pen eu hunain, yn ein hynysu rhag yr ansicrwydd byd-eang sy’n cael ei greu ar hyn o bryd gan wleidyddion yn cynnig atebion i broblemau anodd mewn trydariadau 140 cymeriad.
Rwyf am ddefnyddio’r ddadl hon heddiw i ofyn nifer o gwestiynau am rôl a gwerth busnesau bach a chanolig i economi Cymru, ac rwyf am i’r ddadl fod yn agoriad, o’r meinciau hyn, i ddadl ehangach a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad strategaeth economaidd y Cynulliad hwn yn y dyfodol, ac rwyf am i bob plaid yn ddiwahân chwarae ei rhan. Am y rheswm hwn y sefydlais ac rwy’n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig eu maint. Gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn darparu’r ysgrifenyddiaeth, bydd yn cynnal ei gyfarfod llawn cyntaf yn y flwyddyn newydd. Rwy’n gobeithio y bydd y grŵp hwn yn clywed gan amrywiaeth o academyddion sydd, yn ôl eu honiad eu hunain, wedi cael eu heithrio o’r broses o lunio polisi yma yng Nghymru, ac felly rwy’n gobeithio y byddant yn derbyn yr her. Rwyf am i fusnesau eu hunain chwarae rhan hefyd, i adrodd eu straeon, ac i’r straeon hynny gael eu clywed gan y rhai sy’n llunio polisi.
Heddiw, byddaf yn nodi cymaint ag y gallaf o fy marn fy hun ynglŷn â’r meysydd y gallwn ganolbwyntio arnynt mewn dadleuon yn y dyfodol. Rwy’n berffaith fodlon i rywun ddweud wrthyf fy mod yn anghywir, neu o leiaf fod angen mireinio fy nealltwriaeth ymhellach. Fy unig fwriad yw darparu sylfaen ar gyfer datblygu syniadau pellach. Yn y cyd-destun hwn, hoffwn ganolbwyntio’n fyr ar ddau faes. Yn gyntaf, beth yw rôl busnesau bach a chanolig yn ein heconomi, ac yn ail, ble mae’r busnesau hyn, ac a ydynt yn y lle iawn? Credaf mai camgymeriad yw gweld ein cwmnïau bach fel peiriannau cyflogaeth a dim mwy na hynny. Mae’r sector busnesau bach a chanolig, er yn fawr, hefyd yn heterogenaidd ac yn dameidiog. Mae rôl busnesau bach a chanolig yn creu swyddi yn destun dadlau ymhlith academyddion beth bynnag. Mae rhai fel Birch wedi honni eu bod yn chwarae rhan fawr yn creu swyddi, ac mae eraill wedi dadlau yn fwy diweddar fod eu diffyg cadernid yn golygu bod cyflogaeth cwmnïau bach yn rhy ansicr i’w hystyried yn opsiwn hirdymor i lawer o bobl sy’n chwilio am waith.
Er yr anghytundeb, mae yna wahaniaeth rhwng awydd y rhai sy’n llunio polisi i greu swyddi mewn cwmnïau bach a difaterwch rheolwyr-berchnogion tuag at ddyheadau o’r fath. Mae rheolwyr-berchnogion busnesau bach a chanolig yn sicr yn gyflogwyr amharod, ac yn wir, gelwais fy thesis PhD yn ‘The Reluctant Employer’. Yn wir, pam y byddai unrhyw reolwr-berchennog synhwyrol yn dewis cyflogi—[Torri ar draws.] Diolch yn fawr i’r aelod dros Lanelli. Pam y byddai unrhyw reolwr-berchennog synhwyrol yn dewis cyflogi pan fo dewisiadau eraill rhatach, mwy hygyrch a dibynadwy ar gael? Mae gan lawer iawn o reolwyr-berchnogion ffynonellau dibynadwy o gymorth ar gael iddynt, o leiaf yn y tymor canolig. Gallant fod ar ffurf cysylltiadau cryf â theulu a ffrindiau a fydd yn helpu i redeg y busnes, ond dros gyfnod o amser, bydd y rheolwr yn ffurfio perthynas gyda chysylltiadau busnes eraill sy’n darparu cymorth sy’n ddibynadwy i’r ddwy ochr ac sy’n mynd ymhell y tu hwnt i berthynas drafod busnes. Mae mynediad at y cyfalaf cymdeithasol hwn yn hanfodol ar gyfer datblygiad cynnar a thwf y cwmni. Felly yn lle ceisio achubiaeth economaidd gan ein sector cwmnïau bach, efallai y dylem edrych yn hytrach ar yr hyn y mae cwmnïau bach yn ei wneud mewn gwirionedd—pethau sy’n hanfodol i’n bywydau bob dydd. Byddwn yn ychwanegu bod cyswllt anorfod rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a dylem fod yn amheus o unrhyw lunwyr polisi sy’n awgrymu y byddai’n hawdd rywfodd i gwmnïau preifat fanteisio ar y slac yn sgil lleihad mewn gweithgaredd cyhoeddus.
Gydag astudiaethau fel ‘Towards a New Settlement’ gan Dave Adamson a Mark Lang, a ‘What Wales Could Be’ gan Karel Williams, mae academyddion wedi archwilio sut y dylem ailgyfeirio ein heconomi yma yng Nghymru. Maent yn siarad am symud tuag at strwythur lleol a chynaliadwy, a busnesau bach a chanolig yn elwa o bolisi caffael cryf gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad rhagweithiol. Yn wir, mae’r Athro Adamson a Dr Lang ar hyn o bryd yn cynnal microastudiaeth ddofn ym Mharc Lansbury yn fy etholaeth ac rwy’n edrych ymlaen at archwilio’r canlyniadau. Mae gwaith yr Athro Williams yn rhan allweddol o’r hyn a elwir yn economi sylfaenol—y busnesau sy’n darparu ein hanghenion beunyddiol sylfaenol. Ac rwy’n awyddus i archwilio’r syniadau hyn, ond ni ddaw dim ohonynt os na ellir egluro eu gwerth yn gydlynol ac yn gryno i’r rhai sy’n llunio polisi a’r rhai sy’n elwa ohono.
Felly dylem i gyd gefnogi ymdrechion Lee Waters, yr Aelod dros Lanelli, sydd wedi ei gwneud yn genhadaeth i archwilio’r materion hyn gyda pherchnogion busnesau a thrigolion yn Llanelli. Efallai eich bod wedi ei weld ar Twitter. Mae wedi cynnal cyfarfodydd ffocws yn ddiweddar i drafod anghenion busnesau a defnyddwyr busnesau yn ei etholaeth, ac rwy’n gwybod bod yna Aelodau eraill o’r Senedd hon yn rhoi camau tebyg ar waith yn eu hardaloedd eu hunain, ac rwy’n edrych, hefyd, ar feinciau Plaid Cymru. Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, pan ddywedodd Lee wrthyf gyntaf ei fod eisiau datblygu strategaeth economaidd ar gyfer Llanelli, roeddwn yn meddwl y gallai fod ganddo ormod ar ei blât, ond bydd unrhyw un sy’n adnabod Lee yn gwybod am ei ddycnwch a’i awydd i wneud i syniadau arloesol weithio ar gyfer y bobl mae’n eu cynrychioli. Nid oes ffordd arall o gael eich ethol yn Llanelli. Rwyf wedi rhoi munud o’r ddadl hon heddiw iddo ef, ac i Steffan Lewis am yr un rheswm, ac os oes amser, hoffwn roi peth amser i Russell George ymateb hefyd—[Torri ar draws]. Wel, roedd yn hwyr yn gofyn i mi.
Er nad ydym yn creu unrhyw beth mor grand â strategaeth economaidd, rwyf fi a fy nhîm wedi cyflawni ein hymchwil ein hunain yn etholaeth Caerffili. Rydym wedi siarad ag ystod o berchnogion busnesau a chwsmeriaid dro ar ôl tro, ac mae’r sgyrsiau wedi troi at y stryd fawr. Mae canol ein trefi wedi dod dan lawer o bwysau yn ystod y degawd diwethaf o ganlyniad i nifer o ffactorau: y cynnydd mewn siopa ar y we, parciau manwerthu ar gyrion trefi, costau rhent masnachol ac ardrethi annomestig. Mae’n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain yn awr, ‘Sut olwg y byddem yn hoffi ei weld ar ganol ein trefi unfed ganrif ar hugain ac a oes gan fusnesau bach a chanolig rôl ystyrlon fel rhan ffyniannus, hygyrch a gweladwy o’n cymunedau?’
Mae llawer o’r dystiolaeth rwyf wedi ei chasglu yn awgrymu bod angen sgyrsiau lleol. Dylai canol trefi gwahanol gael yr hawl i gael eu cymeriad unigryw eu hunain ac mae hyn i’w weld ym mhob un o’n hetholaethau. Neithiwr, trafodais y materion hyn gydag AC o blaid arall. Awgrymodd fod angen i ni wneud defnydd deallus ac arloesol o ofod gwag yng nghanol trefi. Dywedodd na ddylem ofni gwneud yr ardal fusnes ganolog yn llai a defnyddio siopau gwag ar gyfer tai a fflatiau. Dylid neilltuo’r gofod sy’n weddill ar gyfer busnesau sy’n mynd i ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw, ond ni ddylai’r gofod gael ei weld mwyach fel un â gwerth premiwm. Byddai dull gweithredu o’r fath yn gweithio yn ei hetholaeth, dadleuodd, ac os yw’n profi’n amhoblogaidd, nodaf mai AC o blaid arall oedd hi. Efallai na fydd yn gweithio ym mhob man, a dyna pam y mae angen dulliau lleol o fynd ati, ond gyda syniad o’r fath, gallwn weld, yn drawsbleidiol, ffordd newydd o feddwl am gwmnïau bach yn egino.
Yn fy etholaeth i, mae yna ganolfan arloesi ar gyfer busnesau newydd a elwir yn ICE Cymru. Rwyf wedi sôn amdanynt o’r blaen yn y Siambr hon a chawsant eu nodi fel enghraifft o arfer da ym maniffesto Llafur Cymru ym mis Mai. Unwaith eto, cawsant eu crybwyll yn y ‘Western Mail’ y bore yma:
‘Five start-ups are reaping the rewards of being put on ICE’
—o fod yn rhan o ICE Cymru. A’r £1 filiwn o gyllid sy’n dod i ICE Cymru.
Mae llawer o’r cwmnïau hyn sy’n bodoli yno yn fentrau uniongyrchol i gwsmeriaid ac rwy’n meddwl tybed pam y maent wedi’u lleoli ar barc busnes ar gyrion y dref? A oes ffordd o gymell eu datblygiad yn agosach at bethau? O ystyried pwysigrwydd cysylltiadau cymdeithasol, cysylltiadau â chyfalaf cymdeithasol, a oes budd o wneud hynny? Efallai fod hyn yn rhywbeth y dylem ei archwilio. Mae gan Lywodraeth ar bob lefel y pŵer i wneud i’r pethau hyn ddigwydd. Yn wir, gallwn ddefnyddio diwygio sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol a chydweithio yn y dyfodol mewn llywodraeth leol fel cyfle i edrych ar sut i ymgysylltu â busnesau bach a chanolig a chyflawni ein hamcanion yn well.
Mae Jeremy Miles wedi ysgrifennu yr wythnos hon am economi menter gymdeithasol lle y mae’r sector cyhoeddus yn prynu nwyddau a gwasanaethau gan fusnesau cymdeithasol, gan helpu i gynnal cadwyni cyflenwi gwydn, a chyfalaf cymdeithasol yn wir. Mae gan y dulliau hyn y potensial i newid ein heconomi yma yng Nghymru. Efallai y gall fod yn ffordd i ni wneud y gorau o’r ansicrwydd ynghylch gadael yr UE, er nad oes unrhyw Aelodau UKIP yma i wrando ar hynny. Nid yw hyn yn golygu troi cefn ar yr economi fyd-eang y mae Cymru wedi bod yn rhan ohoni ers amser maith. Mae’n golygu lleihau pwyslais polisi Llywodraeth ar fuddsoddiad tramor uniongyrchol—rhywbeth sydd wedi nodweddu ein datblygiad economaidd ers dyddiau’r WDA, ac yn dilyn hynny, rhaglen adnewyddu’r economi. Mae GE, Norgine a Nuaire yn gwmnïau mawr yng Nghaerffili a’r cylch a byddwn yn teimlo’n eithaf gelyniaethus tuag at unrhyw un a fyddai’n cwestiynu eu gwerth. Fodd bynnag, dylem fod yn dadlau dros economi ar sylfaen ehangach sy’n canolbwyntio ar dwf cynaliadwy a chyflogaeth heb ormod o bwyslais ar fewnfuddsoddi. Mae arnom angen economi sy’n canolbwyntio ar sectorau penodol; busnesau bach a chanolig sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau ac sydd â diddordeb mewn twf cynaliadwy, heb ormod o ymgolli mewn cwmnïau uwch-dechnoleg sy’n tyfu’n gyflym.
Gadewch i ni edrych tua’r dyfodol. Nid ein cwmnïau bach yw ein hachubiaeth economaidd ac ni ddylid edrych ar y sector fel peiriant cyflogaeth. Mae ganddynt anghenion penodol iawn. Yn lle hynny, dylem weld ein busnesau bach a chanolig yn rhan o bos mwy o faint. Mae’n amser camu’n ôl ac ystyried sut y gallwn wneud y mwyaf o’u potensial.
Mae’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 3 Rhagfyr, felly roeddwn eisiau amseru’r ddadl hon i arwain at y diwrnod hwn, pan fyddwn yn dangos cefnogaeth i rôl busnesau bach yn ein cymdeithas ac yn ein heconomi, ac yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, un diwrnod yn unig yw Sadwrn y Busnesau Bach. Gallwn ddefnyddio’r ddadl hon a’r diwrnod hwnnw i roi cychwyn ar drafodaeth fwy am y rolau y mae busnesau bach a chanolig yn eu chwarae yn ymgysylltu â’r economi ehangach a sut y gall hyn ein helpu i dyfu busnesau bach a chanolig llwyddiannus sydd o werth mawr i’r cyd-destun Cymreig.