<p>Allforion Tramor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:33, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ganmol y Prif Weinidog ar ei ymateb i'r cwestiwn cyntaf heddiw, gan gytuno â beirniadaeth arweinydd Plaid Cymru o weithgareddau Llywodraeth Saudi yn Yemen? Serch hynny, mae'n hanfodol bwysig i Gymru ein bod ni’n gwella ein cysylltiadau masnach gyda Saudi Arabia. Dim ond ychydig o fasnach ydyw—£240 miliwn mewn allforion y llynedd—ond, serch hynny, mae hynny'n bwysig iawn. Ond mae masnach gyda gweddill y byd, y tu allan i'r UE, yn mynd i ddod yn gynyddol bwysig i ni fel cenedl. Cyfeiriodd Rhianon Passmore at y ffaith fod 40 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE; roedd yn 60 y cant 10 mlynedd yn ôl—mae'r sefyllfa parthed Cymru a gweddill y byd wedi gwrthdroi. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno ei bod yn hanfodol bwysig bod gennym ni deithiau masnach i weddill y byd, i fanteisio ar yr anghydbwysedd cynyddol hwn?