Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Rydym ni wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol i bob dysgwr, a gall cyflawni’r diwygiadau hynny ddigwydd dim ond os oes gennym ni system o'r fath a gweithlu sy'n croesawu addysg gynhwysol ac yn cyflawni ar gyfer pob dysgwr ym mhob ystafell ddosbarth. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn addysgu, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod y lefel cywir o gymorth a hyfforddiant ar gael iddyn nhw i sicrhau bod hynny'n cael ei wireddu.