Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Un o’r elfennau canolog, wrth gwrs, o ddiwygio’r cwricwlwm, yw rôl yr ysgolion arloesi. Ond mae yna gonsýrn yn cael ei fynegi’n gynyddol nawr bod ysgolion sydd ddim yn ysgolion arloesi yn teimlo eu bod nhw y tu fas i’r broses yna. Mae’r undebau athrawon yn sicr wedi dweud mai breuddwyd gwrach yw sefyllfa lle mae’r trefniant newydd yn cael ei adeiladu gan y proffesiwn ar gyfer y proffesiwn, ac mae hyd yn oed y Cyngor Gweithlu Addysg yn dweud bod perig nawr ein bod ni’n wynebu sefyllfa dau ‘tier’, lle mae rhai yn teimlo eu bod nhw tu mewn, a rhai yn teimlo bod nhw tu fas. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod pawb yn teimlo perchnogaeth o’r cwricwlwm newydd er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddelifro ar amser?