<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig mai aelod o'i blaid ef sydd wedi diferu’r feirniadaeth honno—nid fe, rwy’n derbyn, ond aelod o'i blaid yn sicr. A oes gennym ni ffydd yn y cwmni? Mater iddyn nhw yw hynny, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n ddarbodus o ran arian cyhoeddus yn cael ei roi ar gael, ac rydym ni wedi gwneud yn union hynny, er mwyn sicrhau bod unrhyw brosiect yn cael ei ariannu dim ond os oes ymraniad teg o risg rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, ac nid dyna’r sefyllfa yma.