Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Mae hyn yn destun pryder. Fe’i codwyd gan Aelodau. Y pryder yw, wrth gwrs, y bydd yn lleihau dewis i ddefnyddwyr. Bydd yn arwain at brisiau uwch, ac mae hyn yn rhywbeth, yn fy marn i, na fyddai'n dderbyniol i bobl Cymru. Nid wyf yn credu y byddai pobl yn derbyn prisiau uwch am eu dŵr pan maen nhw’n gallu gweld y cronfeydd dŵr yn eu hardal sy'n darparu’r dŵr hwnnw.