<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:47, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y Cynulliad yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Prif Weinidog i Ganghellor y Trysorlys wneud rhywbeth ynghylch prisiau ynni yn natganiad yr hydref er mwyn helpu'r diwydiant dur yng Nghymru, rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi’n llwyr yn ei gylch. Nododd fod prisiau ynni ym Mhrydain 46 y cant yn uwch nag mewn rhai mannau eraill yn Ewrop. Onid yw'n cytuno mai un o'r prif resymau am hynny yw Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, a basiwyd gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd, sydd wedi ymrwymo Prydain yn unigryw yn y byd i rwymedigaeth gyfreithiol o dorri allyriadau carbon gan 80 y cant erbyn 2050, ac o ganlyniad i hynny yr ydym ni’n rhoi maen o amgylch gyddfau pobl fel cynhyrchwyr dur Prydain, sy'n cael eu rhoi dan anfantais gystadleuol gyda gwledydd fel yr Almaen?