<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—eisteddodd yno tra bod miloedd ar filoedd—30,000 o swyddi—yn cael eu colli yn y diwydiant glo yng Nghymru. A nawr mae’n dweud nad ydym ni’n gwneud digon i ddiogelu swyddi glo. Y gwir yw, pe byddai gennym ni fwy o orsafoedd ynni glo, byddai'n rhaid i ni fewnforio’r glo. Mae’r Almaen mewn sefyllfa anodd gan ei bod yn dibynnu'n helaeth ar Rwsia am y nwy y mae’n rhaid iddi ei fewnforio, ac o ystyried y sefyllfa sydd ohoni yn y byd, mae honno'n sefyllfa anghyfforddus i’r Almaen fod ynddi. Nid wyf yn credu, o ran diogelwch ynni i Brydain, mai mewnforio mwy o'n hynni ar ffurf glo yw'r ffordd ymlaen.