Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Ceir digonedd o wledydd eraill nad ydynt yn dibynnu ar lo lle mae prisiau ynni yn is. Mae Sbaen yn un enghraifft o hynny, lle nad yw glo yn ffactor pwysig o ran cynhyrchu ynni. Yr hyn y mae’n ei awgrymu—. Mae'n anghywir am Tsieina. Mae Tsieina yn symud—. Technoleg y gorffennol yw glo. Ar wahân i America, nid yw pobl yn bwriadu adeiladu mwy a mwy o orsafoedd ynni glo—