<p>Tollau ar Bontydd Hafren</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 2:05, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Fy nyfyniad blaenorol oedd:

Ni fyddem yn gallu diddymu'r tollau, gadewch i ni fod yn gwbl onest am hynny. Ond, wrth gwrs, gallai unrhyw arian a godir gael ei neilltuo i’r M4.

Ond roedd hynny yn 2012, ac rwy’n cymeradwyo’r Prif Weinidog ar y safbwynt y mae’n ei fabwysiadu nawr. Rwyf wedi codi gydag ef y mater bod pwerau Llywodraeth y DU ei hun i godi tollau o dan Ddeddf Pontydd Hafren 1992 yn dod i ben ar ôl codi swm penodol o arian, a amcangyfrifwyd i fod yn £88 miliwn yn ddiweddar. Ac, ar hanner toll, ni fyddai’r pwerau hynny yn mynd ag ef y tu hwnt i 2019. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i fanteisio ar bwerau ei Lywodraeth ef a’r Cynulliad hwn i'r graddau mwyaf posibl i atal codi tollau ar ôl hynny?