<p>Tollau ar Bontydd Hafren</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, byddai'n well gen i pe byddem ni’n rheoli’r tollau ein hunain—yng Nghymru maen nhw, wedi'r cyfan. Byddai hwnnw'n gam sylweddol ymlaen. Rwy'n meddwl mai’r broblem yw fy mod i wedi gweld cymaint o wahanol ffigurau ar gyfer cynnal a chadw’r ddwy bont. Maen nhw’n amrywio o £20 miliwn a mwy i dros £100 miliwn, yr wyf wedi ei weld hefyd. Rwy'n meddwl mai’r broblem yw beth yw cyflwr y bont wreiddiol. Felly, rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig y ceir arolwg priodol o’r ddwy bont, fel bod dealltwriaeth o’r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â’r pontydd hynny, a hefyd faint yw’r costau cynnal a chadw yn debygol o fod yn y dyfodol. Yna, bydd gennym ni well syniad o'r arian y mae angen dod o hyd iddo er mwyn gallu diddymu’r tollau.