Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Rydym ni’n ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn â sefydlu comisiwn i gynghori ar anghenion seilwaith strategol tymor hir i gefnogi fframwaith buddsoddi mwy sefydlog ar gyfer y dyfodol. Ni fydd swyddogaethau benthyca gan y corff fel y mae’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, ond, wrth gwrs, bydd yna fanc datblygu’n cael ei sefydlu er mwyn bod mwy o gymorth cyllidol ar gael i fusnesau.