<p>Twf Economaidd yng Nghymoedd y De</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ydw, mi ydwyf. Mae Merthyr mewn lle da o ran trafnidiaeth. Bydd y metro o fudd mawr iddo; mae deuoli Blaenau'r Cymoedd yn hynod bwysig i’r dref a'r cyffiniau. Gwariwyd symiau enfawr o arian Ewropeaidd—yn eironig—ar ganol y dref, wrth gwrs i gael i sefyllfa lle mae'n llawer mwy deniadol i fusnesau, ac, wrth gwrs, mae’r busnesau sydd wedi dod i'r datblygiadau y tu allan i'r dref wedi ategu canol y dref, mae'n ymddangos i mi.

Rydym ni’n gweld, wrth gwrs, swyddi yn dod i Ferthyr. Flynyddoedd lawer yn ôl, sefydlodd Llywodraeth Cymru swyddfa ym Merthyr. Rydym ni wedi gweld Tenneco, wrth gwrs, General Dynamics, Trago Mills—mae'r rhain i gyd yn arwyddion i mi bod gan Ferthyr ddyfodol gwych, a photensial helaeth i weithredu fel peiriant i yrru’r economi, nid yn unig yn y dref, ond yn y trefi a’r pentrefi cyfagos hefyd.