2. Cwestiwn Brys: Safle Tata ym Mhort Talbot

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:18, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, ymunaf â'r Aelod wrth groesawu recriwtio 49 o weithwyr ychwanegol, sy'n cefnogi’r gwaith cynhyrchu. Rwy'n credu y bydd hyn yn anfon neges bod y bont yn sicr wedi gweithio, yn gweithio, a bod y sector dur yng Nghymru mewn sefyllfa gymharol gref o gymharu â lle yr oedd ym mis Ionawr eleni. Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata a phob cwmni dur yng Nghymru i sicrhau bod gan y sector ddyfodol llewyrchus.