5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:43, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r sefyllfa yr oedd yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ynddi ddydd Sul? Rwy’n gwerthfawrogi bod y pwysau hyn yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac rwy’n gwerthfawrogi bod mwy o bwysau ar adegau penodol o'r flwyddyn, ond pan fo gennych chi barafeddyg yn dweud bod y digwyddiad arbennig hwn wedi’i wthio i’r eithaf a’i fod yn llwyr fwriadu chwilio am waith arall gan fy mod wedi dod i’r pen yn feddyliol, dylai hynny wir beri i larymau rhybudd ganu yn uchel ym Mharc Cathays ac, yn wir, yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n gyfrifol am ddarparu’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac yn amlwg yr ymddiriedolaeth ambiwlans, yr oedd 12 o’u cerbydau wedi’u parcio y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys brynhawn Sul. Nid wyf yn ceisio dweud nad yw hyn yn digwydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, ond hon yw’r adran Damweiniau ac Achosion Brys fwyaf yng Nghymru, a phan fo gennych chi 12 o ambiwlansys a phan fo gennych chi barafeddygon a staff ambiwlans yn cael eu dyfynnu yn y wasg yn dweud eu bod dan straen meddyliol oherwydd y profiad y maen nhw’n mynd drwyddo, mae hyn wir yn galw am i Lywodraeth Cymru weithredu ac, yn arbennig, Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda'r bwrdd iechyd i ymdrin â'r cyfnodau prysur hyn o ran galw, fel nad yw pobl yn teimlo wrth iddynt fynd i’r gwaith, eu bod wedi dod i’r pen yn feddyliol.