Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig am brosiect yn ei ranbarth ef, sydd â chanlyniadau buddiol yn amlwg. Byddwch chi’n gwybod bod yr ysgrifennydd dros gymunedau yn ceisio barn pobl ar effaith y posibilrwydd o ddiddymu’n raddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac yn wir yn ceisio barn, wrth gwrs, i gynrychiolwyr cymunedol ymateb iddi, fel y gallant ddweud eu dweud o ran y meysydd hynny o fuddsoddiad sy'n cael effaith fuddiol.