Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Rwy'n ddiolchgar am dair hwrê a chefnogaeth yr Aelod—unwaith eto, Aelod sy’n gyson yn ei ymagwedd at gyflwyno’r darn hwn o ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, fel y dywedais yn gynharach, yn enwedig ynghylch y niferoedd ar gyfer cofrestru terfynol, ond hefyd o ran y broses a gorfodi. Byddaf yn dod â datganiad i'r Siambr yn gynnar y flwyddyn nesaf.