8. 5. Datganiad: Canolbwyntio ar Allforion

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:36, 22 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac, yn wir, am groesawu’r datganiad hwn, sydd yn amserol? Bydd datganiadau pellach o'r math hwn yn dod ymlaen wrth i deithiau masnach ychwanegol gael eu cynnal ac y mae rhagor o wybodaeth ynghylch cyflwr allforion y DU a Chymru. Rwy’n credu bod cyfleoedd cyffrous, ond mae her ar unwaith i ni ymdrin â rhai canfyddiadau negyddol o'r DU ar ôl y refferendwm. Un mater y cefais wybod amdano yn Japan yr oedd yn rhaid ymdrin ag ef ar sawl achlysur oedd cred, o ganlyniad i'r refferendwm, bod Prydain rywsut yn llai goddefgar ac yn llai allblyg. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, nid dim ond ni ond cydweithwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

O ran yr Unol Daleithiau, mae’r Unol Daleithiau yn farchnad allweddol iawn, ac rwy’n pryderu, yn amlwg, am rywfaint o rethreg yr Arlywydd newydd. Wedi dweud hynny, rydym yn dwysáu gweithgarwch yn yr Unol Daleithiau, ac yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf bydd dwy daith fasnach yn mynd i Efrog Newydd a San Francisco. Nid oes amheuaeth bod cyfle enfawr yn yr Unol Daleithiau, lle mae gennym hefyd alltudiaeth gref iawn, ac rwy’n gobeithio y bydd ein swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau yn gallu gweithio'n fwy agos gyda Masnach a Buddsoddi y DU a llysgenadaethau a chonsyliaethau Prydain. Canfûm yn Japan fod ein mynediad at y llysgenhadaeth wedi rhoi cyfleoedd enfawr i ni na fyddem fel arall wedi eu cael. Mae cael perthynas dda gyda'n llysgenhadon tramor yn hanfodol bwysig o ran denu’r sawl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn y farchnad, ac rwy'n ddiolchgar iawn am gydweithrediad Llywodraeth y DU yn hyn o beth a’n swyddogion tramor.

O ran y ffigurau, gellir cyfrif am bron yr holl ostyngiad yng ngwerth allforion y mae’r Aelod yn tynnu sylw ato gan y gostyngiad yng ngwerth allforion ynni, gan gynnwys mwynau, tanwydd, ireidiau a phetrolewm. Ac ers 2011, mae allforion ynni—gwerth yr allforion hynny—yn amlwg wedi cael eu heffeithio’n andwyol gan gau purfa Murco, cau er mwyn cynnal a chadw yn Valero a hefyd gan ostyngiad sylweddol yng ngwerth y bunt yn erbyn doler yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, mae ffigurau ar gyfer chwarter 1 a chwarter 2 y flwyddyn galendr hon ar gyfer allforion nad ydynt yn rhai ynni mewn gwirionedd yn dangos cynnydd bychan ar y cyfnod cyfatebol yn 2015. Fy awydd yw gweld y duedd hon yn gwella a thwf mewn allforion yn cyflymu. Yn wir, gellir priodoli llawer o'r gostyngiad yng ngwerth allforion rwy’n meddwl i faterion sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, yn benodol y gostyngiad mewn prisiau nwyddau ac amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid. Ond dyna pam yr ydym yn canolbwyntio ar feysydd lle gallwn wneud gwahaniaeth sylweddol. Ac, unwaith eto, o ran Japan, mae’r gyfradd elw ar fuddsoddiad hyd yma yn 20:1. Byddwn yn disgwyl, yn ystod y chwe mis nesaf, wrth i fwy o archebion gael eu sicrhau, y byddai'r elw ar fuddsoddiad y daith fasnach yn fwy na 40: 1, sydd yn arferol o ran y gymhareb gwerth am arian ar gyfer teithiau masnach.

Rydym yn gweithio—cyfeiriodd yr Aelod at UK plc—yn agosach â Masnach a Buddsoddi y DU a chwrddais yn ddiweddar â'r Arglwydd Price i drafod sut y gallwn sicrhau ein bod yn cydweithio lle bo hynny'n bosibl a’n bod hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan deithiau masnach rhanbarthol penodol hefyd. Er enghraifft, buom yn trafod y cyfleoedd y gellid eu cyflwyno ar gyfer busnesau o fewn ardal Pwerdy’r Gogledd i gymryd rhan mewn taith fasnach neu deithiau masnach penodol Pwerdy’r Gogledd.