9. 6. Datganiad: Y Diwydiant Bwyd a Diod

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 22 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:25, 22 Tachwedd 2016

A gaf i ddweud bod Eluned Morgan yn gwneud peth peryg iawn yn dechrau rhestru cwmnïau yn ei rhan hi o Gymru cyn i Aelod Ynys Môn godi ar ei draed? Achos fe allwn i fod yn siarad yn helaeth iawn am Melyn Môn, y Cwt Mwg, y Cwt Caws a Halen Môn—ond gwnaf i ddim. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod yna llawer gormod o gynhyrchwyr bwyd cymharol fach—rhai ohonyn nhw yn fwy—yn Ynys Môn, a beth mae gennyf i ddiddordeb yn ei wneud, nid yn unig yn fy etholaeth i ond ledled Cymru hefyd, ydy datblygu y diwydiant cyfan tra rydym ni, wrth gwrs, yn hybu y busnesau unigol i dyfu. Wrth gwrs, rwy’n croesawu’r ffaith bod yna bot o arian o £2.8 miliwn ar gael i gwmnïau allu gwneud cais am gyfalaf ohono fo er mwyn datblygu, ond â ninnau yn cyfarfod, rwy’n gwybod, yn fuan iawn i drafod y syniadau sydd gen i ar gyfer datblygu rhyw fath o barc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi bod angen, ochr yn ochr â helpu busnesau unigol i dyfu, datblygu isadeiledd cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn a ledled Cymru? Nid oes yna eiddo, er enghraifft, lle gall cwmni fynd i’w rentu sydd o safon cynhyrchu bwyd yn fy etholaeth i, sy’n fam i Gymru oherwydd ei hanes yn cynhyrchu bwyd ac sydd am barhau i fod yn fam am flynyddoedd i ddod, o gael y cymorth iawn yn y lle iawn gan y Llywodraeth ac eraill.