Part of QNR – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2016.
Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ar gyfer pawb. Mae tri o fy Ngweinidogion yn cynrychioli etholaethau yn y gogledd, ac rydym ni’n parhau i fuddsoddi mewn prosiectau rhanbarthol, gan gynnwys £163 miliwn yn Ysbyty Glan Clwyd, dros £200 miliwn i wella ffyrdd yn y gogledd, a £22 miliwn ar gyfer cyfleusterau addysg yng Nghei Connah a Threffynnon.