Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Wel, rhwydd hynt iddo ddarllen y sail, sy’n gyhoeddus, a bydd yn gweld yr achos yr ydym ni’n ei gyflwyno. Rydym ni’n cynrychioli ein hunain. Nid ydym ni yno i gefnogi’r naill ochr na'r llall ond i gyflwyno’r achos ar ran pobl Cymru o ran pa egwyddorion cyfansoddiadol y dylid eu dilyn. Digwydd bod mai Brexit yw'r pwnc, ond gallai fod yn unrhyw bwnc arall lle byddai angen ystyried yr egwyddor gyfansoddiadol hon. Felly, mae'n bwysig ei fod yn cael ei archwilio nawr.