Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd gwaharddiad ar ffioedd asiantau gosod yn y cyhoeddiad datganiad yr hydref diweddar, gyda Lloegr yn ymuno â’r Alban bellach. Pan ddaw i Gymru, dywedodd eich Ysgrifennydd cyllid wrth y BBC ei fod eisiau aros i weld sut mae'r gwaharddiad yn yr Alban yn gweithio yn gyntaf. A ydych chi'n gwybod ym mha flwyddyn y gwnaethant wahardd ffioedd asiantau gosod yn yr Alban?