Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, os caf ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf heddiw, ar fadredd, hoffwn ganmol fy nghydweithiwr, Angela Burns, sy’n cadeirio'r grŵp hollbleidiol ar y mater penodol hwn erbyn hyn—ar ôl bod trwy brofiadau eithaf echrydus ei hun, mae hi’n gallu dod â’r profiadau personol hynny at y bwrdd. Mae hwn yn fater sydd, yn amlwg, trwy sylw diweddar yn y cyfryngau, wir wedi dod i flaen meddyliau pobl, ond sydd wedi bod yn llechu’n dawel yn y cefndir ym meddyliau gweithwyr iechyd proffesiynol ers cryn amser. Ac, er tegwch i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi cyflwyno strategaeth i geisio mynd i'r afael â rhai o'r meysydd y mae pobl yn eu hwynebu pan fyddant yn cyflwyno eu hunain ac eisiau cael eu hasesu yn yr ysbyty. Ond mae'n ffaith mai dim ond un o bob 10 o bobl sy’n cael y driniaeth gywir a'r asesiadau cywir mewn ysbytai. Pa fath o darged allwn ni ystyried fel y nod yr adeg hon y flwyddyn nesaf? Gan fy mod i’n clywed y geiriau gwresog ac, yn gywir, y geiriau y mae pobl eisiau eu clywed, ond maen nhw eisiau clywed bod cynnydd ar y mater penodol hwn mewn gwirionedd. Felly, pa gynnydd allwn ni eich dwyn i gyfrif yn benodol amdano o ran sgrinio a thriniaeth ymhen blwyddyn, Brif Weinidog?