<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:49, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynna, Brif Weinidog. Roeddwn i’n chwilio’n benodol am darged gennych chi, fel y Prif Weinidog a'r Llywodraeth. Rwy’n sylweddoli efallai na fydd ffigurau eglur a phendant ar gael ar hyn o bryd, ond y ffigur a roddais i chi yw mai dim ond un o bob 10 o gleifion sy’n derbyn, ar hyn o bryd, y sgrinio a’r gefnogaeth honno y mae’n debyg fyddai'n helpu ac yn achub eu bywydau a dweud y gwir. Nawr, mae hwnnw'n ffigur nad yw’r un ohonom ni eisiau ei adael. Rydym ni eisiau gwthio hwnnw yn ei flaen, ac mae gennych chi’r gallu fel Llywodraeth i fwrw ymlaen o'r ffigur hwnnw.

Pan fyddwch chi’n meddwl mewn gwirionedd bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn cael eu lladd gan fadredd yng Nghymru, neu’n marw o fadredd yng Nghymru, na mewn damweiniau ffordd—bu gennym ni raglen enfawr, rhaglen lwyddiannus, o ddiogelwch traffig ffyrdd a gwybodaeth traffig ffyrdd—mae hwn yn faes lle mae angen i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad, a sicrhau canlyniadau pendant yn ein gwasanaeth iechyd. Nid yw pocedi o arfer da yn ddigon da o gwbl, fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddar. Felly, hoffwn ddefnyddio fy ail gwestiwn o dri, os caf, i geisio eich gwthio chi i geisio cael ffigur pendant gennych chi o ran ble y byddwn ni yr adeg hon y flwyddyn nesaf, pan ddaw i sgrinio ar gyfer madredd mewn ysbytai a gallu darparu'r triniaethau sydd eu hangen.