Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Mae'n fater o ble mae cwestiynau’n cael eu gofyn, wrth gwrs, pan fydd y pethau hyn yn codi, ond rhoddaf yr un ateb i’r Aelod a roddais i arweinydd Plaid Cymru, sef: rydym ni’n astudio effaith y gwaharddiad yn yr Alban ac, ynghyd â manylion terfynol cynigion yn Lloegr, bydd hynny’n llywio unrhyw gamau a gymerwn. Ac fel y soniais yn gynharach, diolchaf i'r Aelod am yr eiriolaeth y mae hi wedi ei ddangos ar ran cymaint o denantiaid yn ei hetholaeth, lle maen nhw wedi dioddef camfanteisio am rai blynyddoedd. Mae hwn yn fater y gwn ei bod hi wedi bod yn weithgar iawn o ran ei wrthwynebu.