Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, ymddengys y bu rhywfaint o ddryswch ar y pryd—pan drafodwyd hyn gennym o'r blaen, yn y Cynulliad blaenorol—ynghylch pa un a oedd y pwerau gennych chi ai peidio. Ac rwy’n deall eich bod wedi gallu rhoi cyngor i Aelodau Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn yn awgrymu nad oedd, mewn gwirionedd, yn gyfreithlon i chi wneud hynny, rhywbeth na rannwyd gyda’r gweddill ohonom ni yn rhan o'r ddadl benodol honno. Hoffwn ofyn yma heddiw, Brif Weinidog, os ydych chi’n bwriadu cyflwyno unrhyw ddadl yn y dyfodol neu unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol, a wnewch chi rannu’r cyngor hwnnw gyda’r Cynulliad, fel y gallwn ei ddadansoddi’n annibynnol fel y gallwn asesu’r ffordd ymlaen, gan ei bod hi’n ymddangos ein bod ni’n clywed un peth gan aelodau'r meinciau cefn a rhywbeth arall gan y Llywodraeth.