Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, mae’r ffioedd hyn yn codi dipyn o arswyd. Nid oes llawer o nwyddau a gwasanaethau y codir tâl arnynt am y broses o’u prynu, a cheir cefnogaeth eglur ym mhob rhan o’r tŷ i gamau gael eu cymryd ar hyn. Mae'r ffioedd hyn yn ystumio'r farchnad. Maen nhw’n anghymhelliad i symudedd llafur, a'r profiad eglur yn yr Alban yw y byddai'r ffioedd yn cael eu talu gan y rhai sy'n cynnig cartrefi i'w rhentu, a dyna ble maen nhw wedi bod yn draddodiadol.