<p>Dail ar y Rheilffyrdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:08, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o sylwadau gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU ychydig wythnosau yn ôl bod pwyso am drydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe yn gynamserol ac, yn fwyaf diweddar, sylwadau gan gadeirydd Network Rail nad oedd y cytundeb wedi’i gadarnhau. Bydd yn gwerthfawrogi y bydd fy etholwyr yng Nghastell-nedd a, mentraf ddweud, rhai cydweithwyr i'r gorllewin o Gaerdydd yn clywed hynny fel troi cefn ar ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU. Tybed a allwch chi amlinellu pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadw at ei hymrwymiadau.