Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Nid yw hynny’n gywir. Mae’r hyn y mae'n ei awgrymu—wel, y mae'n ei ddweud, a dweud y gwir, bod gwendid yn y system; hynny yw, bod gweithredwr a pherchennog y rheilffordd wedi ei ysgaru oddi wrth y cwmni trenau ei hun, ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ei hun. Byddai'n system llawer gwell, yn fy marn i, pe byddai’r cwmni trenau a gweithredwr a pherchennog y rheilffordd yn un corff, fel na all un roi'r bai ar y llall os oes unrhyw darfu ar wasanaethau. Ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ef ac y mae eisiau ei chadw.