Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Mae Sir Fynwy yn rhan o’r ddau brosiect, wrth gwrs. Mae Sir Fynwy yn rhan weithredol o gytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac yn sicr mae arweinydd Sir Fynwy wedi bod yn rhywun sydd wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth symud y cytundeb hwnnw yn ei flaen, a’r metro hefyd. Ceir cyfleoedd i Sir Fynwy elwa ar y metro, yn enwedig wrth i ni edrych ar well gwasanaethau bws a gwasanaethau rheilffordd ysgafn, o bosibl, i mewn i’w etholaeth yn y dyfodol.