Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 29 Tachwedd 2016.
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gefnogi galwadau am ymchwiliad cam 2 gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i’r pryniant arfaethedig o Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy gan Severn Trent Water? Yn amlwg, ceir goblygiadau enfawr i gwsmeriaid ac i swyddi, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, yn ogystal â goblygiadau ehangach i’r diwydiant dŵr yma yng Nghymru. A wnewch chi hefyd gefnogi'r apêl i gyfranddalwyr presennol wneud yr hyn a allant i gadw'r swyddi hynny yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac i sicrhau bod Dŵr Cymru yn cael ei redeg o Gymru yn y dyfodol, ac nid o Coventry?