Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a dweud y byddwn i'n awyddus i edrych ar dwf newydd yn y Gymraeg a busnesau sy'n cefnogi'r Gymraeg mewn unrhyw le yng Nghymru, boed hynny yn y gogledd-orllewin, y de-orllewin, y de-ddwyrain neu’r canolbarth a’r gorllewin, mewn unrhyw le ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a all gyflawni manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i'r cymunedau y mae wedi’i leoli ynddyn nhw, ond mae’n rhaid iddo fod yn hyfyw ac yn gyflawnadwy.