Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Mae'n gwestiwn diddorol iawn, ac rwy’n credu bod gwerth ystyried, nid yn unig y model hwn, ond hefyd modelau sy'n dod i'r amlwg mewn mannau eraill yng Nghymru. Er enghraifft, gwnaethom dorri tywarchen yn ddiweddar ym Mharc Gwyddoniaeth Menai yn y gogledd-orllewin, a chredaf fod hynny yn cynnig dull tebyg lle y gellid cael systemau fertigol integredig sy'n hybu twf prif denant, boed hynny yn y gogledd-orllewin, Wylfa Newydd, neu yn y gogledd-ddwyrain, lle y gwnaethom gyhoeddi sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch tebyg—Airbus. Gallwch gael systemau fertigol integredig sy'n efelychu, i ryw raddau, hen fodelau o'r gorffennol, lle'r oedd gennych o fewn un cwmni, bopeth wedi’i adeiladu, popeth wedi’i ddarparu, ond newidiodd hynny wedyn. Yn yr unfed ganrif ar hugain, yr hyn a fydd yn allweddol fydd cysylltu mannau prifysgol, integreiddio mannau prifysgol, a all gynnig mannau agored, creadigol, gyda busnesau mawr a bach, a fydd wedyn yn cael eu seilio nid yn unig ar gyflenwi gofynion y prif gwmnïau, y prif denantiaid, ond a fydd hefyd yn hybu arloesedd ar draws y rhwydwaith.
Felly, rwy’n credu bod y model hwn yn un diddorol iawn y gallem ei ystyried ar gyfer rhywle arall yng Nghymru, ond y pwynt arall yr hoffwn ei wneud yw nad wyf i’n credu y gallwn ni fabwysiadu un model i bob man yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni gymryd y sgiliau a'r cyfleoedd unigryw sydd ar gael ym mhob cymuned, ac wedyn seilio’r math hwn o fodel twf canolfan ar yr elfennau unigryw hynny ar gymunedau Cymru.