6. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:51, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Bu Julie Morgan, wrth gwrs, yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig ers iddi gael ei hethol i'r Siambr hon, ac yn wir ymunais â’r cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf ar ddiwedd y cyfarfod a sylwi nid yn unig ar y niferoedd sylweddol, ond ar y teimladau a’r profiadau sylweddol. Wrth gwrs, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yno ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Mae wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â’r rhai yr effeithir arnynt mewn cysylltiad â'r taliadau a'r ffordd ymlaen i Gymru. Roedd ef, wrth gwrs, yno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia yr wythnos diwethaf. Fel mesur dros dro, bydd y taliadau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, mewn gwirionedd, fel y bydd Julie Morgan yn gwybod, ar yr un lefelau â Lloegr, yn unol â'r pecyn o ddiwygiadau y maent wedi’i weithredu yno. Ond, wrth gwrs, mae angen ymateb a syniadau ynghylch y ffordd orau y gallwn ni wneud yn siŵr, ar gyfer y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt, fod diogelwch o ran eu bywyd pob dydd. Dyna pam yr ydym ni’n chwilio am gynlluniau pellach, a syniadau a barn bellach ar gyfer cynllun newydd o fis Ebrill 2017 ymlaen. Rwy'n credu bod angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y rhai hynny, fel y dywedais, yr effeithiwyd arnynt yn cael eu cefnogi'n briodol i sicrhau y cynghorir Ysgrifennydd y Cabinet yn llawn wrth wneud yr ystyriaethau a'r penderfyniadau hynny.