Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Yn ogystal â chymeradwyo galwad Julie Morgan ynglŷn â hemoffilia a gwaed halogedig, ar ôl bod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw’r wythnos diwethaf hefyd, galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar HIV/AIDS, gan gydnabod ei bod hi’n Ddiwrnod Aids y Byd ddydd Iau 1 Rhagfyr. Thema Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ar gyfer Diwrnod Aids y Byd eleni yw HIV ‘It’s Not Over’. Maen nhw’n dweud ein bod wedi dod yn bell wrth fynd i'r afael â HIV yng Nghymru. Bellach, mae gan bobl sy'n byw â HIV, sydd wedi cael diagnosis cynnar ac yn cael triniaeth, ddisgwyliad oes arferol o’u blaenau. Hefyd, pan fo unigolyn sy'n byw â HIV yn cael triniaeth yn llwyddiannus ac na chaiff unrhyw feirws HIV ei ganfod yn eu gwaed, mae'n amhosibl trosglwyddo HIV. Felly, mae triniaeth yn cyfateb i atal.
Ond, mae un o bob chwech o bobl sy'n byw â HIV yn anymwybodol o’r ffaith bod ganddynt y feirws, gan roi eu hiechyd eu hunain mewn perygl a throsglwyddo’r feirws yn ddiarwybod. Yng Nghymru, roedd hanner y bobl newydd a gafodd ddiagnosis o HIV y llynedd wedi’u diagnosio’n hwyr, y gyfradd uchaf yn y DU. Gan fod HIV yn effeithio ar bobl hoyw a phobl heterorywiol, roedd 68 y cant o'r holl achosion newydd y llynedd mewn pobl rhwng 25 a 49 oed. Er bod cyfraddau HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi ar draws Cymru, ac roedd llai o bobl yn cael triniaeth HIV wrthretrofirol yn 2015 na'r flwyddyn flaenorol, mae’r gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru yn parhau i leihau, heb unrhyw ddarpariaeth gwasanaeth iechyd rhywiol statudol o unrhyw fath ar hyn o bryd ym Mhowys, a gwasanaethau atal iechyd rhywiol a hybu iechyd wedi’u dadgomisiynu mewn tri bwrdd iechyd yng Nghymru—Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda—a gwasanaethau cymorth yn cael eu hariannu gan y loteri yn unig, a chyllid yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth nesaf.
Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn galw am ymchwiliad o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru ar hyn o bryd, ac effaith hynny ar ardaloedd lle nad oes modd cael gafael ar wasanaethau neu ardaloedd lle mae’n anodd cael gafael arnynt. Felly, mae angen i’r Gweinidog roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â HIV yng Nghymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â’r nifer annerbyniol o uchel o bobl sy’n cael diagnosis hwyr o HIV yng Nghymru, ac a fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad i nodi Diwrnod Aids y Byd, gan gydnabod pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw, ond hefyd y ffigurau a'r ystadegau sy’n peri pryder a amlygwyd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yng Nghymru.