7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:32, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei groeso cyffredinol i'r Bil a'i ddibenion? Gwnaeth rai pwyntiau pwysig ar y dechrau am gyfochri trethi sy'n dod i Gymru â’n hagenda polisi. Mae hon wedi bod yn dreth lwyddiannus iawn o safbwynt newid ymddygiad. Bu 52 y cant o ostyngiad yng nghyfanswm y tunelli o wastraff yng Nghymru a aeth i safleoedd tirlenwi rhwng 2001 a 2013. Rhagwelodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei datganiad yr hydref y bydd derbyniadau’r dreth hon yn lleihau’n gyflymach nag yr oeddent yn ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn ac mae hynny'n rhan o gyfochri’r agenda bolisi â'r agenda dreth.

Ein nod, fel y dywedodd, yw dechrau’r dreth hon drwy efelychu’r trefniadau presennol mor agos ag y gallwn, ond eu gwella hefyd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, wrth i’r pwerau hyn ddod yn ymarferol yn weithredol, y bydd y gallu i ailedrych ar ein huchelgeisiau yn y maes hwn, a gweld a oes mwy y gallem ei wneud â’r ysgogiad newydd hwn, yn rhywbeth y bydd Gweinidogion yn dymuno ei ystyried bryd hynny.

Gofynnodd yr Aelod gwestiynau am y berthynas rhwng yr WRA a Chyfoeth Naturiol Cymru. Penderfynwyd gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â'r agwedd orfodi ar y dreth hon oherwydd ei fod eisoes yn ymwneud â’r maes gwastraff—y ffaith bod ganddo wybodaeth am sut y mae’n gweithredu ar lawr gwlad a’r ffordd orau o ddefnyddio hynny.

Rydym eisoes yn darparu rhywfaint o arian ychwanegol i Gyfoeth Naturiol Cymru i ganiatáu iddo baratoi am y dyletswyddau newydd hyn. Cawn weld a fydd angen parhau i wneud hynny yn y dyfodol yn y ffordd honno. Rwy’n bendant yn agored i drafodaethau wrth i'r Bil ddatblygu ynglŷn â rhai trefniadau rhannu cyllid. Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu, drwy dargedu safleoedd gwastraff anghyfreithlon, cynyddu llif cyllid i mewn i'r WRA, nid yw'n ymddangos yn afresymol i mi na ddylai gael cadw cyfran o'r cyllid ychwanegol hwnnw i’w hybu i wneud mwy o waith yn y maes hwn. Rwy’n edrych ymlaen at drafod y posibilrwydd hwnnw wrth i'r Bil symud drwy'r broses graffu.