7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:54, 29 Tachwedd 2016

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy roi bloedd o ddiolchgarwch i John Selwyn Gummer, a wnaeth gyflwyno’r dreth dirlenwi yn y lle cyntaf 20 mlynedd yn ôl, a chydnabod bod hwn hefyd yn deillio o gyfarwyddeb tirlenwi’r Gymuned neu’r Undeb Ewropeaidd? Mae yna les pendant sydd wedi digwydd i amgylchedd Cymru yn sgil hynny. Dyma’r dreth amgylchedd gyntaf erioed a gawsom ni ym Mhrydain, hefyd.

Mae gen i gwpwl o gwestiynau penodol i’r Gweinidog. Yn gyntaf oll, a fedr e jest gadarnhau—rwy’n credu bod hyn ymhlyg yn yr hyn mae wedi’i ddweud—nad yw’n defnyddio’r Bil yma i newid y polisi amgylcheddol, ac mai trosi’r system drethiannol y mae ef ond nid oes bwriad i newid bwriad y polisi amgylcheddol? Rwy’n credu ei fod ymhlyg, ond mae eisiau clywed hynny ar y cofnod, fel petai.

Mae’r ail gwestiwn ynglŷn â’r cynllun grant ar gyfer cymunedau. Mae yna lot o ddiddordeb gan gymunedau lleol yn y cynllun grant yma, wrth gwrs. A fedr y Gweinidog esbonio pam nad yw wedi rhoi'r cynllun grant yn y Bil? Pam mae e’n defnyddio, yn hytrach, Ddeddf Llywodraeth Cymru? Achos, i fi, mae hynny’n awgrymu bod y Llywodraeth yn gallu tynnu i ffwrdd y cynllun grant rywbryd yn y dyfodol pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny, tra byddai ei roi e yn y Bil yn sicrhau statws tymor hir cyfreithiol a statudol i’r cynllun grant hwnnw.

Y cwestiwn ynglŷn â gwarediadau heb eu hawdurdodi: jest i fod yn glir, nid yw’n fwriad i ddisodli’r angen am gosbi a dirwyo’r cwmnïau sy’n gwneud hyn; ffordd arall o fynd i’r afael â’r broblem sy’n cael ei awgrymu. Gan fod y dreth dirlenwi ar hyn o bryd yn cael ei gosod ar safle’r ‘operator’ yn bennaf, sut felly y mae’n mynd i weithio drwy osod y dreth wedyn ar y person sydd yn symud y gwastraff? Achos mae hynny’n ddau beth gwahanol. Mae gennych chi ddwy ffordd wahanol o godi treth nawr, yn hytrach na rhywbeth syml oedd gyda ni o’r blaen. Yn sgil hynny, a fydd yn sicrhau felly, gan ei fod yn Weinidog cyllid yn ogystal, fod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i fynd i’r afael â’r broblem gwarediadau heb eu hawdurdodi? Achos byddai nifer ohonom ni yn ofni nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru cweit wedi dod i’r afael â’i ddyletswyddau presennol, heb sôn am allu ymdopi â dyletswyddau ychwanegol.