7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:59, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog; rwy’n croesawu eich datganiad, ond, mae’n rhaid imi ddweud, gallai sôn am dreth newydd i Gymru ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi yn sicr achosi gofid i rai pobl yn fy etholaeth i, o ystyried y gydberthynas uniongyrchol rhwng eu casgliadau biniau wythnosol neu, fel y maent bellach mewn rhai ardaloedd, misol a lefelau'r dreth gyngor yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol, yng Nghonwy, y ceir y cynllun arbrofol cyntaf o gasgliadau bin bob pedair wythnos ar draws nifer fawr o eiddo. Mae hyn yn cael effaith wirioneddol wael ar ein trigolion ac mae llawer yn teimlo erbyn hyn na allant ymdopi. Yr wythnos diwethaf, bu ‘Week in, Week Out: Keeping a Lid On It’ yn tynnu sylw at y problemau niferus sy'n gysylltiedig â hyn. Eto i gyd, pan gafodd biniau rhai cartrefi eu harchwilio cyn eu casglu, roedd canran fawr o'u sbwriel, mewn gwirionedd, yn sbwriel y gellid ei ailgylchu. Nawr, er gwaethaf, fel y crybwyllwyd, y targedau ailgylchu uchel a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac er gwaethaf y ffaith fod yr awdurdodau lleol yn darparu cyfleusterau a chynwysyddion ailgylchu drud, mae’r camgymhariad enfawr hwn yn dal i fodoli rhwng gwastraff domestig ac eitemau eraill sydd, yn y pen draw, yn mynd i safleoedd tirlenwi.