Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar ddiwedd ei chyfraniad ynglŷn â phrosiectau cymunedol, a gwaith WRAP. Rwy'n edrych ymlaen at gael rhannu â holl Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol y papur y byddaf yn ei lunio ar y gronfa gymunedol, ac rwy’n llwyr sylweddoli y bydd bron bob un o’r Aelodau yma wedi cael rhywfaint o brofiad o hynny yn eu hetholaethau eu hunain ac rwy'n awyddus iawn i ddysgu o'r profiad hwnnw i wneud yn siŵr ein bod yn llunio’r cynllun hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
O ran y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am orfodi, gwnes fy ngorau yn gynharach i wahaniaethu rhwng y mathau o weithgareddau a ddisgrifiodd; rwy’n gwybod yn iawn o fy mhrofiad fy hun eu bod yn achosi niwsans a gofid mawr i bobl y maent yn effeithio arnynt, a’r gweithgarwch anghyfreithlon ar raddfa fawr a drefnwyd y mae’r Bil hwn wedi'i lunio i ymdrin ag ef. Bydd gorgyffwrdd rhwng y gweithgareddau y mae fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn gyfrifol amdanynt drwy awdurdodau lleol a’r Bil hwn, ond nid dyna yw prif bwyslais y Bil sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.