Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i Jenny Rathbone am y croeso y mae hi wedi’i roi i'r Bil. Mae’r pwynt am osgoi talu treth a wnaeth ar y dechrau yn un yr ydym wedi cyffwrdd arno nifer o weithiau y prynhawn yma. Mewn rhai ffyrdd, fel y mae'n ei ddweud, mae'n ddealladwy. Mae treth tir y dreth stamp yn eithaf anodd ei hosgoi oherwydd mae’r tŷ yno i bawb ei weld. Mae gwastraff yn llawer, llawer mwy agored i ymddygiad osgoi. Gallwn ddefnyddio amser y Cynulliad y prynhawn yma—ond ni wnaf, oherwydd rwy'n siŵr y bydd yn dod gerbron y Pwyllgor Cyllid—yn sôn am y ffordd y mae faint o ddŵr sydd yn cael ei ychwanegu at wastraff yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o osgoi treth y dylid bod wedi ei thalu fel arall a sut yr ydym yn mynd i ddefnyddio’r Bil hwn i geisio rhoi sylw i hynny.
Nid yw’r pwyntiau a wnaethpwyd ynglŷn â phecynnu ac awdurdodau lleol, a bod yn onest, wir yn rhan o'r Bil hwn. O ran y pwynt a wnes yn gynharach wrth ymateb i'r gyfres gyntaf un o gwestiynau am bosibilrwydd o rannu cyllid lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau gweithredu sy'n arwain at blismona gweithgaredd sydd ar hyn o bryd ddim yn cael ei blismona’n iawn, a lle mae hynny'n arwain at dalu treth, y dylent gael cyfran o hynny, wel, rwy’n meddwl y byddai awdurdodau lleol yn yr un berthynas.