9. 5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:22, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n falch o agor y ddadl hon ar yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad blynyddol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Sarah Rochira a'i thîm am y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru. Mae'n amlwg o'r adroddiad bod y comisiynydd wedi parhau â'i record drawiadol o weithgarwch. Mae ehangder a dyfnder ei gwaith yn cyffwrdd â chymaint o agweddau ar fywydau pobl hŷn: eu hawliau, eu hiechyd, eu tai a'u diogelwch. Mae hi wedi bod yn unigolyn dylanwadol, gan sicrhau bod llais pobl hŷn yn cael ei glywed bob amser, a bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig iddyn nhw. Ac, yn bwysig, nid yw’r comisiynydd erioed wedi anghofio pwysigrwydd dilysrwydd wrth siarad ar ran pobl hŷn. Eleni, mae hi a'i thîm wedi cyfarfod â 218 o grwpiau a mwy na 5,600 o bobl hŷn ar draws y wlad, gan siarad â nhw yn bersonol er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig i bobl hŷn heddiw.

Gan gymryd y gwelliant cyntaf a gyflwynwyd yn enw Paul Davies, rydym yn cydnabod yr effaith y gall unigrwydd ac unigedd ei chael ar iechyd a lles. Dyma pam yr ydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thraws-Lywodraeth i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei ddwyn ymlaen drwy ein strategaeth ar gyfer pobl hŷn a’r rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru. Fel y cyfryw, rydym yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Rydym hefyd yn cefnogi’r ail welliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig.  Yn wir, rydym eisoes wedi cymryd camau i gryfhau hawliau i bobl hŷn drwy’r datganiad hawliau i bobl hŷn a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Yn ei hadroddiad, mae'r comisiynydd wedi bod yn glir am ei huchelgais i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn drwy ddeddfwriaeth bellach.  Mae’r Prif Weinidog a minnau eisoes wedi cael trafodaethau â'r comisiynydd pobl hŷn ynghylch deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol, ac mae’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer pobl hŷn ddiwedd mis Medi yn cadarnhau ein cefnogaeth i’r egwyddor o gael Bil.

Gan droi at y gwelliant olaf a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, unwaith eto, rydym yn ei gefnogi.  Rydym yn cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol mewn iechyd a lles pobl hŷn, a dyma pam yr ydym wedi darparu cyllid ychwanegol yn y grant cynnal refeniw i gydnabod y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol. Sicrhawyd hefyd bod rhagor o arian ar gael drwy'r gronfa gofal canolraddol.  Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18 hefyd yn cyflwyno'r setliad cyllid llywodraeth leol gorau ers blynyddoedd.

Hoffwn ganolbwyntio ar rai o'r themâu allweddol sy'n sail i adroddiad y comisiynydd.  Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig gosod y ddadl o fewn cyd-destun tirwedd newidiol gofal cymdeithasol yng Nghymru.  O'u cymryd gyda'i gilydd, mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a Deddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu. Mae gan bobl erbyn hyn lais cryf a mwy o ddylanwad o ran y gofal a'r cymorth a gânt i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac i fodloni eu canlyniadau lles yn y ffordd orau.  Mae'r comisiynydd wedi bod yn ymwneud â datblygu’r ddwy Ddeddf, ac rwy’n gwerthfawrogi’r cyfraniad cadarnhaol y mae wedi ei wneud ac y mae’n parhau i’w wneud.

Mae dementia yn un o'r heriau gofal iechyd mwyaf sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, ac mae'n un o themâu allweddol adroddiad y comisiynydd.  Dim ond yn ddiweddar, amlygodd y penawdau newyddion bod clefyd Alzheimer a dementias eraill wedi eu cofnodi mewn bron i un o bob wyth o farwolaethau a gofnodwyd yn 2015.  Mae'r ffigurau hyn yn cael eu priodoli i’n poblogaeth sy'n heneiddio yn ogystal â dulliau gwell o ganfod y cyflyrrau hyn a gwell diagnosis.

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad, 'Dementia: mwy na dim ond colli cof'.  Daeth hi i nifer o gasgliadau allweddol yn dilyn ei hadolygiad, gan gynnwys diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, diffyg hyblygrwydd a chydweithrediad o fewn gwasanaethau dementia, ac amrywiad sylweddol mewn profiadau pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymdrin â heriau dementia a mynd i'r afael â'r materion y mae'r comisiynydd wedi’u codi.  Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn nodi ein hymrwymiad i gymryd camau pellach i wneud Cymru yn genedl sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu strategol dementia cenedlaethol newydd.  Bydd y cynllun hwn, wrth gwrs, yn ystyried canfyddiadau’r comisiynydd, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y trydydd sector, fel y Gymdeithas Alzheimer, Cynghrair Henoed Cymru a Chynghrair Cynhalwyr Cymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy nag £8 miliwn o arian ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau dementia ledled Cymru.  Felly, mae gennym sylfaen gadarn i adeiladu arni.  Byddwn yn defnyddio'r cynllun i gryfhau gwaith sydd eisoes ar y gweill mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth a gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer ac eraill i gynnal momentwm ymgyrchoedd y Cyfeillion Dementia a Chymunedau Cefnogi Pobl â Dementia. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar wella cyfraddau diagnosis, gan ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol, ac ymwreiddio diwylliant sy'n rhoi urddas a diogelwch cleifion yn gyntaf.  Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol cyn diwedd y flwyddyn hon, gyda'r fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2017.

Fel Llywodraeth, rydym yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu, ac nid yw gwahaniaethu ar sail oedran yn eithriad. Ond er bod rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia, er enghraifft, yn cael eu cydnabod a'u deall yn gyffredinol, mae'r comisiynydd yn gwneud y pwynt fod rhagfarn ar sail oedran yn cael ei hesgeuluso yn aml ac anaml iawn y siaredir amdani. Hwn oedd y grym y tu ôl i’w hymgyrch Dywedwch Na wrth Oedraniaeth, a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd. Nod yr ymgyrch oedd herio'r stereoteipiau sy'n gysylltiedig â thyfu’n hŷn a phobl hŷn, gan amlinellu'r cyfraniad enfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n cymdeithas, gan gynnwys dros £1 biliwn i’r economi bob blwyddyn. Defnyddiodd y comisiynydd ei chyrhaeddiad trawiadol i ledaenu'r neges ar draws Cymru drwy ffilm, cyfryngau cymdeithasol a chyrsiau hyfforddi. Fel rhan o'r ymgyrch, mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at wahaniaethu ar sail oedran a gwahaniaethu yn y gweithle, ac mae hyn yn parhau i fod yn broblem sylweddol i lawer o bobl hŷn. Mae hyn yn aml yn seiliedig ar syniadau rhagdybiedig o iechyd gwael, cynhyrchiant is ac amharodrwydd i addasu i newid. Mae'r rhagfarnau hyn, nad oes dim dilysrwydd iddynt, yn rhan o'r rheswm pam fod ceiswyr gwaith hŷn yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith yn y tymor hir o’u cymharu â cheiswyr gwaith iau, a pham y mae mwy nag un o bob tri pherson yng Nghymru rhwng 50 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth yn ddi-waith.

Rwy'n falch o ddweud bod y Llywodraeth hon yn cydnabod y gwerth y mae pobl hŷn yn ei roi i'r farchnad lafur.  Ni ddylai cyfleoedd dysgu a hyfforddi fod ar gyfer pobl ifanc yn unig.  Rydym wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed.  Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r profiad y mae pobl hŷn yn eu rhoi i'r gweithlu.  Os yw pobl hŷn yn dymuno aros mewn gwaith neu’n awyddus i ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd i wneud cais am swyddi newydd, byddwn yn eu cefnogi yn y penderfyniad hwnnw.

Trof yn awr at y thema olaf yr hoffwn i dynnu sylw ati o adroddiad y comisiynydd—diogelu ac amddiffyn pobl hŷn yma yng Nghymru.  Mae gwaith y comisiynydd wedi canolbwyntio ar sicrhau ymagwedd systemig i nodi'r bobl hŷn sydd mewn perygl a sicrhau cefnogaeth lawn gan y system cyfiawnder troseddol er mwyn helpu pobl i adennill eu diogelwch a'u lles.  Pan fydd angen gofal a chymorth ar bobl hŷn, byddwn yn sicrhau bod gan y rhai sy'n gofalu am bobl hŷn y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel.

Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd y gofal y mae pobl yn ei dderbyn, boed yn eu cartrefi eu hunain, neu yn yr ysbyty, neu mewn cartref gofal, ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.  Mae camau'n cael eu cymryd i ymateb i argymhellion adolygiad Flynn, ac mae hyn yn cynnwys penodi uwch arweinydd gwella ansawdd sy'n gweithio gyda darparwyr cartrefi gofal a rheoleiddwyr ledled Cymru i leihau wlserau pwysau y gellir eu hosgoi.

Mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi rhoi amddiffyn oedolion ar sail statudol gadarn. Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno diffiniad o 'oedolyn mewn perygl', ac mae dyletswydd newydd ar yr awdurdod lleol i wneud ymholiadau i benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed. Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno nifer o fesurau diogelu allweddol ar gyfer oedolion mewn perygl, gan gynnwys dyletswyddau newydd i adrodd i’r awdurdod lleol am unrhyw un yr amheuir ei fod yn oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu eu hesgeuluso, ac i’r awdurdod lleol wneud ymholiadau neu achosi i ymholiadau gael eu gwneud i benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu'r bobl hynny sy'n agored i niwed. Mae’r ddyletswydd hon i ymholi yn cael ei hategu gan bŵer i wneud cais i'r llysoedd am orchymyn cymorth ac amddiffyn oedolion. Bydd y gorchymyn yn galluogi swyddog awdurdodedig sydd â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i fynd i mewn yn ddiogel i'r safle er mwyn siarad gydag oedolyn yn breifat, i benderfynu pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.

Un o'r materion y mae’r comisiynydd yn rhoi sylw iddo yn ei hadroddiad yw'r effaith ddinistriol y gall sgamiau, twyll neu ddichell droseddol ei chael ar fywydau pobl hŷn, ac mae’r troseddau hyn, wedi'u targedu yn fwriadol at rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn cael effaith andwyol ar les meddyliol a chorfforol. Mae ymchwil wedi dangos bod cost uniongyrchol hefyd i awdurdodau lleol, gan fod dioddefwyr yn colli eu hyder a'u hannibyniaeth, yn dioddef iselder, ac angen ymyrraeth gan y wladwriaeth i ddarparu diogelwch fel llety gwarchod a chefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol. Er bod arfer da yn bodoli ledled Cymru i fynd i'r afael â sgamiau yn eu holl ffurfiau, mae Llywodraeth Cymru, y comisiynydd ac eraill yn cydnabod bod angen cydlynu ymdrechion yn well a sicrhau bod ymagwedd gydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. O ganlyniad, lansiodd y comisiynydd ac Age Cymru Bartneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau yn ffurfiol ym mis Mawrth eleni, ac mae hyn yn gweithio i wneud Cymru yn lle anghyfeillgar i droseddwyr sy'n aml yn targedu pobl hŷn a bregus yn fwriadol. Mae'r bartneriaeth hefyd wedi datblygu siarter gwrth-sgamwyr gyntaf y DU.

Fel Llywodraeth, rydym yn ymrwymo i sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel ac yn gallu byw heb ofn.  Mae'r fframwaith yn mynd i'r afael â throseddau casineb, sy'n pennu nod Llywodraeth Cymru i herio gelyniaeth a rhagfarn, yn cynnwys oedran fel nodwedd warchodedig.  Mae'r mater hwn yn cael ei archwilio ar lefel strategol gan y bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb, a sefydlwyd i sicrhau dull partneriaeth ar draws meysydd datganoledig a heb eu datganoli, gan gynnwys pedwar heddlu Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl hŷn a'r materion y maent yn eu hwynebu yn glir: heb os nac oni bai, mae’r penderfyniad arloesol a gymerwyd yn 2008 i benodi comisiynydd pobl hŷn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom yma yn amau ​​dycnwch, ymroddiad a phenderfyniad y comisiynydd a'i thîm wrth gyflawni eu pwrpas fel llais annibynnol i bobl hŷn, gan helpu i gadw'r rhai sy'n agored i niwed yn ddiogel a gweithio i sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Edrychaf ymlaen at y ddadl.