Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf welliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.
Mae tua 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru sy'n haeddu pob cyfle i gael eu grymuso i gael eu hawliau wedi eu cryfhau a'u hanghenion wedi eu cyflawni, a hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy dalu teyrnged i’n Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Miss Sarah Rochira, am ymgyrchu’n ddiflino i gyflawni hynny. Nid dim ond y fi sy’n cydnabod y proffesiynoldeb y mae Miss Rochira wedi ei ddangos wrth gyflawni’r swyddogaeth—mae hi'n sicr yn bencampwr go iawn ar gyfer ein henoed yma yng Nghymru. Mae ei gwaith ar sgamiau a thwyll, cartrefi gofal, heneiddio'n dda yng Nghymru, cam-drin domestig a rhagfarn ar sail oedran yn dangos yr ystod eang o faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn, yr ydym yn eu cydnabod heddiw. Mae'r comisiynydd yn agor yr adroddiad hwn drwy gyfeirio at bobl hŷn yng Nghymru fel 'ased anhygoel' ac 'arwyr bob dydd'. Gyda chyfraniad o £1 biliwn bob blwyddyn i'n heconomi drwy ofal plant, gwirfoddoli, gofal a gwaith cymunedol, mae'n deg dweud bod hwn yn ddisgrifiad gwych. Eto i gyd, yn rhy aml, nid oes neb yn sylwi neu’n cydnabod gwerth yr 'arwyr pob dydd' hyn. Mae'n gwbl annerbyniol bod gormod o bobl hŷn, yn enwedig y rhai a allai fod yn fwy agored i niwed, yn gweld eu hawliau yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn, a phan maent wir angen y gefnogaeth fwyaf.
Flwyddyn yn ôl i’r wythnos nesaf, ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, galwodd y comisiynydd am ddeddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ein pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae ein gwelliannau heddiw yn ceisio cryfhau galwadau’r comisiynydd drwy gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn. Rydym yn dymuno gweld un darn o ddeddfwriaeth i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn glir o fewn cyfraith Cymru. Rydym am weld dyletswydd sylw dyledus ar bob corff cyhoeddus; i roi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau pobl hŷn ledled Cymru; ac i gyflwyno mesurau i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran, hyrwyddo heneiddio yn dda ac ymgorffori lles pobl hŷn o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r ffaith bod tîm gwaith achos y comisiynydd wedi darparu cymorth a chefnogaeth i 413 o bobl hŷn ledled Cymru y llynedd yn dangos bod angen gwneud cynnydd o hyd, yn enwedig ym meysydd gofal a gofal preswyl sydd, ar y cyd, yn ffurfio cryn dipyn o waith achos o'r fath. Nododd y comisiynydd y prif themâu a ddaeth i’r amlwg yn ei gwaith achos megis cael gafael ar gyllid gofal iechyd parhaus, effaith cau cartrefi gofal, a chost gyffredinol y gofal. Mae'r rhain yn themâu yr wyf innau, hefyd, wedi sylwi arnynt mewn llawer o fy ngwaith achos fy hun, ac maent yn rhan o'r rhesymau pam y mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld cap ar gostau gofal, gwaith cydgysylltiedig lawer gwell rhwng y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a darpariaeth lawer gwell o welyau, er mwyn atal yr oedi ofnadwy hwnnw wrth drosglwyddo gofal yr ydym i gyd yn gwybod amdano yn ein hetholaethau, ac i sicrhau dewis, addasrwydd a'r lleoliad iawn ar gyfer y rhai sydd angen gofal.
Rydym wedi defnyddio ein gwelliannau i dynnu sylw at y mater o unigedd ymysg pobl hŷn. Mae hwn yn bryder y mae’r comisiynydd wedi canolbwyntio arno o’r blaen, ac rydym am sicrhau nad yw’r Siambr hon yn anghofio'r effaith y gall unigrwydd ei gael ar les corfforol a meddyliol person, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Gall unigrwydd gael effaith ar farwolaeth yn debyg o ran maint i ysmygu 15 sigarét y dydd. Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod pobl ag arwyddion cynnar o glefyd Alzheimer yn 7.5 gwaith yn fwy tebygol o fod yn unig iawn. Felly, gadewch i ni ddefnyddio'r adroddiad hwn i ymrwymo i wneud Cymru y genedl gyntaf sy’n ystyriol o ddementia yn y Deyrnas Unedig. Ddirprwy Lywydd, rydym yn ffodus o gael comisiynydd mor ymroddedig ac ymrwymedig yn gweithio ar ran pobl hŷn ledled Cymru, ac rwy’n dweud hyn: hoffwn weld y swyddogaeth honno, lle mae pobl yn gwneud gwaith da iawn—rwy’n gwybod ei bod yn gysylltiedig ag amser, ond hoffwn i weld rhai pobl yn aros yn y swydd ac yn parhau â'r gwaith da y maent yn ei wneud. Dyna un swyddogaeth yr wyf yn arbennig yn credu y dylai barhau, a’r person hwnnw.
Gadewch inni sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd i greu Cymru sy’n ystyriol o oedran, gan sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau, y gefnogaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu, a'u bod yn cael eu grymuso i barhau i fyw bywydau sy’n rhoi boddhad a phleser, gan gyfoethogi ein gwead cymdeithasol fel mai dim ond y rhai sydd â’u profiadau bywyd eu hunain sy’n gallu ei wneud. Diolch.