Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw, cynnig a gyflwynwyd gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, a thrwy wneud hynny, hoffwn dynnu sylw at y datblygiadau arloesol y gall gofal iechyd trawsffiniol eu cynnig o ran gwella canlyniadau i gleifion ar y ddwy ochr i’r ffin. Byddem hefyd yn hoffi i’r Cynulliad nodi’r argymhellion cadarn iawn a wnaed gan Gomisiwn Silk, ac a adlewyrchir hefyd yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gydnabod yr heriau a ddaw yn sgil gweithio trawsffiniol.
Bydd ein cynnig heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn edrych ar ffyrdd o wella canlyniadau i gleifion sydd wedi’u lleoli ar y ddwy ochr i’r ffin, yn ystyried yr argymhellion a wnaed ar y mater hwn gan Gomisiwn Silk, a hefyd yn defnyddio’r dystiolaeth a gymerwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i dynnu sylw at nifer o bryderon a godwyd gan gleifion a sefydliadau iechyd eraill. Byddwn hefyd yn ceisio gwneud awgrymiadau adeiladol ar gyfer gwella gofal iechyd trawsffiniol. Mae heriau gofal iechyd trawsffiniol yn annhebygol o wasgu ar feddyliau’r rhan fwyaf ohonom, ac eto mae’n fater sy’n effeithio ar bob un ohonom sy’n byw yng Nghymru. Nid oes wahaniaeth a ydych yn un o’r 50 y cant o Gymru sy’n byw o fewn 25 milltir i’r ffin â Lloegr, neu unrhyw un arall sy’n defnyddio’r GIG, gan ein bod yn dibynnu ar allu defnyddio gwasanaethau, o feddygon teulu i ofal arbenigol, gan y GIG yn Lloegr. Ac eto, mae llawer o gleifion a sefydliadau yn teimlo bod y system yn aml yn llawn dryswch ac ansicrwydd oherwydd nad ydynt yn ymwybodol mewn gwirionedd o ble y maent yn cael eu gwasanaethau.
Dros y blynyddoedd, datblygodd gwahaniaethau clir iawn rhwng polisïau iechyd Cymru a Lloegr. Mae datganoli wedi galluogi’r ddwy Lywodraeth i lunio polisïau yr ystyriant eu bod yn addas i adlewyrchu anghenion eu poblogaethau eu hunain. Fodd bynnag, mae’n golygu bod angen i ni fod yn fwy effro i’r problemau y gall hyn eu cynhyrchu, a dod o hyd i ateb mwy cadarn ac adeiladol. Nid yw’r problemau hyn yn ddibwys o ystyried bod oddeutu 56,000 o gleifion Cymru yn cael eu derbyn i ysbytai yn Lloegr bob blwyddyn. Mae adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn dweud nad oes unrhyw obaith ymarferol neu realistig o ddargyfeirio’r llif trawsffiniol hwn sydd wedi hen sefydlu, ac ni fyddai’n ddymunol gwneud hynny. Felly, er nad oes ffordd o newid y patrwm hwn, credwn fod yn rhaid cael ffyrdd i ni allu gwella’r sefyllfa fel bod cleifion ar y ddwy ochr i’r ffin yn cael mynediad teg at driniaethau iechyd.
Nid daearyddiaeth yw’r unig her sy’n ein hwynebu. Mae teneurwydd ein poblogaeth yn rhoi problemau i ni o ran tegwch mynediad at wasanaethau iechyd, ac felly mae’n wirioneddol gadarnhaol fod llawer o gymunedau gwledig yng Nghymru yn gallu defnyddio gwasanaethau iechyd drwy groesi’r ffin i ganolfan agosach atynt yn hytrach na gorfod teithio milltiroedd yng Nghymru, yn enwedig os ydynt yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Nawr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r heriau a wynebir gan y gwasanaethau perthnasol, cyflwynwyd protocol trawsffiniol gan y ddwy Lywodraeth, gyda’r fersiwn ddiweddaraf yn 2013. Mae’r protocol hwn yn nodi pwy sy’n gyfrifol am ddarparu pa wasanaethau ac i bwy. Fodd bynnag, mae’r saith BILl yng Nghymru yn dal i fod yn gyfrifol am gleifion Cymru. Yn eu tro, mae grwpiau comisiynu clinigol Lloegr yn dal i fod yn gyfrifol am gleifion yn Lloegr. Nawr, gall hyn achosi tensiynau, ac mae’n gwneud hynny, tensiynau a all godi pan fydd polisïau gwahanol yn dod yn weithredol ar y naill ochr neu’r llall i’r ffin, ac mae gennym sefyllfa lle y gall un set o reolau fod yn berthnasol i wahanol gleifion yn yr un feddygfa, yn dibynnu ar ble y maent yn byw, neu reolau gwahanol i gymdogion, yn dibynnu ar ba feddygfa y maent wedi cofrestru ynddi. Achos tensiwn arall yw polisïau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr mewn perthynas â chleifion yn dewis eu lleoliad eu hunain ar gyfer cael triniaeth. Os ydynt yn system Lloegr gallant ddewis i ba ysbyty y maent am fynd iddo. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn feirniadol o’r rhyddid hwn, a dywedant fod darparu mwy o lais i gleifion yn bwysig. Nawr, nid yw’r ddadl hon yn ymwneud ag edrych ar y polisi hwnnw. Mae her llais y claf yn hytrach na dewis y claf yn golygu bod cleifion o Loegr sy’n cael eu triniaeth yng Nghymru yn colli’r hawliau sydd gan eu cydwladwyr ar draws y ffin. Felly, rydym yn ceisio tegwch i bawb.
Mae targedau rhestrau aros yn fater arall sy’n achosi tensiwn. Mae gan 95 y cant o gleifion Lloegr hawl gyfreithiol i ddechrau triniaeth o fewn 18 wythnos i gael eu hatgyfeirio, ac nid oes disgwyl i neb orfod aros mwy na 36 wythnos. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid yw ein huchelgais wedi ei osod mor uchel, gyda tharged o 26 wythnos ar gyfer dechrau triniaeth, ond nid oes unrhyw hawl gyfreithiol. Yn ôl ffigurau’r mis diwethaf, bu bron i 5 y cant o gleifion Cymru yn aros mwy na 36 wythnos rhwng atgyfeiriad a thriniaeth. Dengys ffigurau y gall amseroedd aros fod cymaint â dwywaith a hanner yn hirach yng Nghymru nag yn Lloegr ar gyfer gweithdrefnau arferol hyd yn oed. Mae hon yn sefyllfa ddryslyd iawn i bobl sy’n byw o amgylch ffiniau ein gwlad. Mae’n destun pryder fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi amlygu bod llawer o grwpiau comisiynu clinigol sy’n gweithredu ar hyd ochr Lloegr i’r ffin yn gweithredu dwy restr aros o fewn yr un feddygfa—rhestr Cymru a rhestr Lloegr. Nawr, a gaf fi a fy nghyd-Aeelodau yma adleisio barn y pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru a’r Adran Iechyd ddatrys y broblem hon, ac fel mater o frys? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi sicrwydd y bydd hyn yn digwydd, ac y byddwch yn mynd i’r afael â hyn fel mater o frys? Mae’n ymddangos yn annheg iawn fod un feddygfa’n gweithredu mor wahanol yn dibynnu a ydych yn Gymro neu’n Sais.
Roedd adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015, yn nodi hefyd fod Gweinidog Cymru ar y pryd wedi dweud y byddai’n cynnig diwygio’r rheoliadau angenrheidiol yng Nghymru i gael gwared ar rwystrau i feddygon teulu rhag darparu gwasanaethau ar y naill ochr i’r ffin a’r llall. Rwy’n credu bod hwnnw’n gam ymlaen sydd i’w groesawu’n fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud ar y mater hwn, ac a yw hwn, mewn gwirionedd, yn uchelgais y byddech am ei weld yn digwydd. Deallaf fod y protocol yn destun adolygiad tair blynedd. Fel rwyf eisoes wedi’i sefydlu, lluniwyd y protocol diwethaf yn 2013, felly rwy’n credu y byddwn yn gywir i ddweud ei bod yn rhaid ei bod yn bryd i ni gael adolygiad arall cyn diwedd y flwyddyn. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a yw’r adolygiad hwn wedi ei gynnal, ac os nad yw, a ydych yn bwriadu adolygu, a pha bryd y byddwn yn gweld adolygiad o’r fath?
Mae Comisiwn Silk, a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Mawrth 2014, yn mynd ymhellach na darpariaethau protocol 2013 ac yn dadlau y dylid cryfhau’r trefniadau presennol drwy ddatblygu protocolau unigol rhwng pob bwrdd iechyd lleol ar y ffin yng Nghymru a’r Ymddiriedolaeth GIG gyffiniol yn Lloegr. Tybed a oes gennych farn ynglŷn ag a ddylid symud hynny yn ei flaen ai peidio.
Yn ogystal, galwodd Silk ar y gwasanaethau iechyd yng Nghymru a Lloegr i gydweithio’n agosach gyda’i gilydd i ddatblygu strategaethau gwell er mwyn sicrhau cymaint o arbedion effeithlonrwydd â phosibl ar y cyd, ond mae yna ddiffyg eglurder ynglŷn â pha mor bell y mae hynny wedi cael ei symud yn ei flaen. Mae angen i ni wneud y sefyllfa drawsffiniol yn fwy teg o’i chymharu â gwasanaethau y gall pobl eraill yng Nghymru fanteisio arnynt. Felly, a gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd polisïau’n cael eu cyflwyno ym maes iechyd yn y Cynulliad hwn eu bod yn cael eu gwarantu’n awtomatig neu eu harchwilio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phrawf ffin addas fel nad yw pobl Cymru yn cael eu rhoi dan ormod o anfantais os ydynt yn mynd at feddyg teulu yn Lloegr? Rwy’n sylweddoli mai nifer cymharol fach o bobl yn unig y bydd yn effeithio arnynt, ond mae angen ei wneud er mwyn darparu mwy o gysondeb mewn gofal iechyd a’i fod hefyd yn cyd-fynd â rhai o’n trafodaethau ddoe yn deillio o adroddiad y prif swyddog meddygol ynglŷn â lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Rwy’n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau’n dymuno siarad mwy am ardaloedd unigol ar y ffin, ond mae’n werth cyffwrdd ar rai o’r materion allweddol. Oherwydd y polisi presgripsiynau am ddim, weithiau gofynnir i gleifion o Gymru sy’n cael eu rhyddhau o ysbyty yn Lloegr dalu am eu meddyginiaethau eu hunain ac yna rhaid iddynt geisio’i hawlio yn ôl. Hefyd, mae’r polisïau sy’n ymwneud â rhyddhau i ofal cymdeithasol yn wahanol rhwng y ddwy wlad, gan arwain yn eithaf aml, at gleifion yn wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal yn rheolaidd. A gaf fi ychwanegu atodiad cyflym yma? Nid rhywbeth rwyf wedi ei balu allan o unman yw hyn. Mae’n dod o adroddiad Comisiwn Silk, o adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a chan Gydffederasiwn y GIG. Felly, mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau profadwy sy’n digwydd ar lawr gwlad heddiw.
Yn olaf, mae’r diffyg cydgysylltiad rhwng systemau TG ar y naill ochr i’r ffin a’r llall yn prysur ddod yn broblem. Er fy mod yn gwybod bod astudiaeth ar y gweill ar hyn o bryd ar sefydlu system atgyfeirio electronig rhwng meddygon teulu yng Nghymru ac ysbytai yn Lloegr, hoffwn wybod sut y mae’r treial yn mynd rhagddo a pha bryd y cawn wybod ei ganlyniadau. Rwy’n teimlo’n gryf fod mater gwasanaethau TG yn bwysig. Os gallwn gael hyn yn iawn, gallai helpu o ddifrif i symleiddio gwasanaethau a chanlyniadau.
Rhoddwyd tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig gan feddyg yn Ysbyty Iarlles Caer yn Lloegr sy’n ymdrin â diabetes. Disgrifiodd sut y caiff samplau gwaed a gymerir gan feddygon teulu yng Nghymru eu hanfon i Ysbyty Maelor Wrecsam, er bod y claf o dan ei ofal ef. Oherwydd diffyg cydweddoldeb trawsffiniol, nid yw’n gallu cael gafael ar y canlyniadau a darparu ymgynghoriad llawn. Roedd Coleg Brenhinol y Meddygon yn ategu’r farn hon a rhoddodd dystiolaeth ynglŷn â’r modd roedd hi’n aml yn haws ailadrodd profion gwaed yn hytrach na dod o hyd i ganlyniadau o’r ochr arall i’r ffin. Mae’n rhaid bod hyn yn wastraff affwysol o ran amser ac arian. Mae angen i ni allu datrys hyn. Aeth y pwyllgor ymlaen i fanylu ar y modd nad oes rhaglen waith ar y cyd rhwng y GIG yn Lloegr a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threfniadau TG canolog ar hyn o bryd.
Rwy’n cydnabod bod yna wahaniaeth ymagwedd yma, gyda Lloegr yn edrych ar wella’r gallu i ryngweithredu ar gyfer gwasanaethau TG lleol yn Lloegr, ac rydym ni am ddatblygu un system genedlaethol. Ond rwy’n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth am gleifion yn effeithiol rhwng gwasanaethau sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, ni waeth pa ochr i’r ffin y maent, ac ar draws y ffin. Felly, tybed a allwch ddweud wrthym neu roi rhywfaint o sicrwydd i ni y bydd y mater hwn yn cael sylw cyn gynted ag y bo modd. A wnewch chi hefyd ystyried ateb tymor byr y gellir ei roi a fyddai’n galluogi cleifion sy’n cael gofal trawsffiniol i gael copi caled neu gopi electronig o’u cofnodion i’w gludo gyda hwy i’w hapwyntiadau? Rwy’n credu y gallwn ymddiried yn y cleifion i ofalu am eu data meddygol eu hunain.
Roedd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ansawdd y gwasanaeth iechyd yn y DU yn mynegi pryderon ynglŷn â’r ardal drawsffiniol gyfan, ac er eu bod wedi gweld bod yna drefniadau da ar gyfer gweithio ar y cyd, roeddent yn argymell y gallai cydweithio helpu byrddau iechyd i sicrhau newid ystyrlon drwy ddefnyddio ystod o fentrau, fel partneriaethau mentora rhwng byrddau iechyd, cyfnewid staff a sicrhau bod canlyniadau’n cael eu cymharu’n agored. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn bwriadu bwrw ymlaen ag unrhyw rai o’r argymhellion hynny gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
Ysgrifennydd y Cabinet, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn hoffi gweld gwasanaethau iechyd gwladol, y grwpiau comisiynu perthnasol a Llywodraethau’r ddwy wlad yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd gydsyniol i sicrhau bod cleifion ar y ddwy ochr i Glawdd Offa yn cael y fargen orau bosibl. Gyda mwy o gydweithrediad trawsffiniol, efallai y gallwn fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan lawer o’r tystion wrth y pwyllgorau amrywiol. Efallai hefyd y byddwn mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â rhai o’r problemau staffio sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd a lleihau’r ddibyniaeth gynyddol ar staff banc ac asiantiaeth. Ac wrth feddwl am y pwysau ar y gweithlu, hoffwn gadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd gan UKIP. Ysgrifennydd y Cabinet, hyderaf y byddwch yn symud ein harsylwadau ymlaen, ac edrychaf ymlaen at eich atebion i’r cwestiynau a ofynnais.