Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno dadl ar y pwnc hwn, fel y gallwn drafod realiti triniaeth drawsffiniol i gleifion rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn awyddus i sicrhau bod yr ymagwedd at lif cleifion trawsffiniol yn synhwyrol ac yn bragmatig ac yn canolbwyntio ar ddarparu’r gofal gorau i bawb sydd ei angen. Dyna yw prif ffocws y protocol trawsffiniol wedi bod.
Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob claf yn cael gofal iechyd o ansawdd uchel ar yr adeg gywir ac yn y lle iawn. Weithiau, y gwasanaethau a ddarperir ar draws y ffin yn Lloegr fydd orau ar gyfer cleifion o Gymru. Fel sydd wedi’i drafod heddiw, mae llif cleifion hir sefydledig wedi bod i mewn i Loegr ar gyfer gofal ysbyty. Mae gan fyrddau iechyd lleol hyblygrwydd i atgyfeirio cleifion allan o’u hardal am driniaeth pan fo angen a phan fo amgylchiadau clinigol y claf yn cyfiawnhau hynny, neu ble nad yw gwasanaethau’n cael eu darparu yng Nghymru.
Fodd bynnag, ceir realiti’r ymagwedd wleidyddol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio GIG Cymru, ac yn anffodus, mae hynny wedi tarfu ar rywfaint o’r ddadl. Nid oedd y sylw am Glawdd Offa yn arbennig o ddefnyddiol, ac nid yw wedi cael ei ddadwneud mewn gwirionedd. Ond a bod yn deg, ac er clod i Angela Burns, nid yw wedi mabwysiadu’r dull dallbleidiol wrth siarad am ofal iechyd trawsffiniol a’r hyn sydd angen i ni ei wneud mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Cafwyd awgrymiadau yn y gorffennol gan sefydliadau yn Lloegr nad yw’r GIG yng Nghymru yn talu o flaen llaw am gleifion o Gymru, ac nid yw hynny’n wir. Roedd hynny’n wirioneddol siomedig ac fe niweidiodd y berthynas ar un adeg mewn gwirionedd rhwng gwahanol sefydliadau a oedd yn gorfod trin cleifion o Gymru. Yn wir, mae’n iawn—ac mae llawer yn y Siambr hon wedi gwneud y sylw hwn o’r blaen—fod y gwasanaethau hynny dros y ffin yn dibynnu ar lif cleifion o Gymru i wneud y gwasanaethau hynny’n gynaliadwy. Felly, mae angen cael sgwrs ddilys a synhwyrol ynglŷn â sut y mae cleifion yn cael triniaeth a ble y maent yn ei chael.
Ac wrth gwrs, nid mater o driniaeth gofal eilaidd safonol yw hyn oherwydd, wrth gwrs, mae yna wasanaethau arbenigol, lle y mae angen i bobl fynd i Loegr. Disgrifiodd Hannah Blythyn rai o’r rheini yn ei sylwadau. Wrth gwrs, mae gan ogledd Cymru gysylltiad â’r ganolfan trawma yn Stoke. Nawr, mae hynny wedi gwella canlyniadau mewn gwirionedd. Mae’r ffaith fod pobl yn teithio ymhellach yn ddaearyddol er mwyn mynd i’r ganolfan gywir yn Lloegr wedi gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt mewn gwirionedd o ran gwella canlyniadau. Dyna enghraifft dda o gomisiynu’r gofal iawn, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn er budd cleifion yng ngogledd Cymru.
Ond wrth gwrs, nid llif cleifion allan o Gymru i Loegr yn unig a geir oherwydd mae Ysbyty Treforys yn Abertawe yn gwasanaethu fel canolfan losgiadau arbenigol ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr, a Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i Gymru yn ogystal â thrin nifer o gleifion sy’n cael eu hatgyfeirio o Loegr. Rydym yn gwybod bod yna heriau mewn rhai lleoliadau yn Lloegr lle y mae byrddau iechyd Cymru yn comisiynu gofal fel arfer—Powys a Betsi yn arbennig. Mae gwasanaethau yng ngrŵp comisiynu clinigol dyffryn Gwy, Caerloyw a Swydd Amwythig, er enghraifft, wedi bod yn—neu’n dal i fod—yn destun mesurau arbennig. Mae’n fater rwy’n ei drafod yn rheolaidd pan fyddaf yn cyfarfod â phobl o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys—sut y maent yn diogelu eu sicrwydd eu hunain nid yn unig ynglŷn ag ansawdd gofal, ond ynglŷn â pha mor amserol yw’r gofal hwnnw, ac i wneud yn siŵr, fel yr awgrymwyd yn rhai o’r sylwadau, nad yw cleifion o Gymru yn cael eu trin mewn modd llai ffafriol, a’u bod yn cael y gofal y maent yn ei gomisiynu mewn gwirionedd. Felly, mae’n rhan reolaidd o’r sgwrs ar lefel perfformiad yn ogystal ag ar lefel fwy strategol.
Rydym hefyd yn gwybod, yn anffodus, y bydd peth o’r gwasanaeth arbenigol hunaniaeth o ran rhywedd yng nghlinig Charing Cross yn cael ei ddirwyn i ben, a daw hynny â ni yn ôl at yr her, mae’n debyg, ar ddechrau hyn—sut rydym yn sicrhau bod y gofal iawn yn cael ei ddarparu ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn ar gyfer y cyhoedd rydym yma i’w gwasanaethu?
Nodaf ganfyddiadau Comisiwn Silk, ac rwy’n hapus i roi gwybod i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau parhaus gyda GIG Lloegr ynghylch darpariaeth gofal iechyd ar hyd ein ffin. Yn fwy diweddar, roedd y trafodaethau hyn yn canolbwyntio ar drefniadau atgyfeirio meddygon teulu, a byddwn yn ystyried anghenion ehangach cleifion y ffin a fydd yn elwa o roi cytundeb mwy ffurfiol ar waith. Oherwydd fel y cydnabuwyd, mae mwy o lif trawsffiniol o gleifion gofal sylfaenol i mewn i Gymru na’r ffordd arall. Mae dros 20,800 o drigolion Lloegr wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, o’i gymharu â’r 14,700 o drigolion Cymru sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr.
Fel Llywodraeth, ni fyddem yn ystyried cychwyn neu atal protocolau unigol rhwng byrddau iechyd lleol a grwpiau comisiynu clinigol, gan fod unrhyw drefniadau ffurfiol rhwng y sefydliadau hynny yn well o’u gwneud ar lefel leol, gan y sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i asesu a darparu yn ôl anghenion cleifion unigol.
Rwyf wedi edrych ar ganfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i ofal iechyd trawsffiniol, ac rwy’n cydnabod bod llawer o’r casgliadau a’r argymhellion a amlygir yn eu hadroddiad eisoes yn cael eu gweithredu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad. Ers ymchwiliad y pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Adran Iechyd yn Lloegr, ac i raddau hyd yn oed yn fwy gyda GIG Lloegr, er mwyn helpu’r Adran Iechyd i fynd i’r afael â’i phroblemau gyda diffyg cydymffurfiaeth â’i deddfwriaeth—y ddeddfwriaeth mewn perthynas â thrigolion Lloegr sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru sydd angen gofal eilaidd. Mae hyn yn amlygu’r ffaith fod rhai o’r heriau yma yn ymwneud â systemau gwahanol, ac â’r ffordd y mae GIG Lloegr bellach yn nodi hawliau cyfreithiol ymddangosiadol mewn cyfansoddiad ymddangosiadol, felly mae’n anodd gweld sut y caiff rheini eu gorfodi. Ond nid wyf yn meddwl ei fod yn effeithio’n ymarferol ar berfformiad, sy’n her go iawn, fel y gwyddoch, a chyrraedd rhai o’u targedau amseroedd aros. Nid yw’r iaith yn y ddeddfwriaeth wedi newid hynny. Ond mae sgwrs ymarferol go iawn i’w chael ynglŷn â sut rydym yn mynd i oresgyn rhai o’r heriau hynny.
Wrth gwrs mae yna heriau gwirioneddol ynglŷn â sut y mae rhai triniaethau yn cael eu darparu i drigolion o Loegr sy’n gweld trigolion Cymru yn cael gwell gwasanaeth. Mae llawer o’r enghreifftiau a gafwyd yn y ddadl heddiw wedi bod y ffordd arall, gyda phobl yn dweud, ‘A dweud y gwir, hoffem gael yr hyn sydd gan Loegr’, ond ar ystod o faterion, er enghraifft, Sativex, deallwn fod hynny’n her yn Lloegr, lle nad yw wedi bod ar gael ar yr un cyfnod o amser. Mae cael gwared ar y brychau yn broses ddwy ffordd o ran y ffordd rydym yn siarad â’n gilydd.
Yn wir, rwyf wedi clywed y sgwrs—eto, pwynt Eluned Morgan—am ofal iechyd trawsffiniol a’r ffordd y caiff ei gynllunio. Roeddem yn bryderus o’r blaen fod sgyrsiau’n digwydd am gynllun Parod at y Dyfodol y GIG ar draws ein ffin nad oeddent yn ystyried llif cleifion o Gymru yn llawn wrth wneud y dewis hwnnw. Nawr, rydym wedi ein calonogi fod dewis wedi ei wneud heddiw, ond mae’n amlwg fod angen iddo fynd i grwpiau comisiynu clinigol yn Lloegr, felly mae angen i ni wneud yn siŵr o hyd. Nid yw’r sgyrsiau hynny wedi eu cwblhau eto, nid yw’r penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto, ac mae angen i ni fod yn rhan o’r sgwrs. Mewn gwirionedd, ers dechrau hynny, mae bwrdd iechyd Powys yn cymryd rhan yn briodol bellach fel rhan o’r bwrdd rhaglen i ddeall beth sy’n digwydd yn y ffordd y mae’r penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud.
Rydym yn cydnabod bod cydweithio’n parhau ar lefel leol ar y rhwydwaith trawsffiniol. Mae comisiynwyr a darparwyr gofal iechyd, gan gynnwys meddygon teulu, yn dod at ei gilydd yn chwarterol i drafod materion lleol sy’n effeithio ar ofal iechyd trawsffiniol. Rwyf am fynd i’r afael â mater un rhestr cyflawnwyr yma, oherwydd ni fyddwn yn cefnogi’r gwelliant. Byddem yn hapus i weld un rhestr cyflawnwyr, ond yr Adran Iechyd yn Lloegr yw’r broblem. Nid ydynt yn awyddus i weld hynny’n digwydd. Rydym wedi gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr y gall meddygon teulu fod yn gyflawnwyr ar y ddwy restr yng Nghymru ac yn Lloegr. Rydym wedi gwneud popeth a allwn i wneud y broses yn haws ac yn symlach. Mae’n wirioneddol bwysig mewn ardaloedd ar draws y ffin. Ond rydym am i’r Adran Iechyd ddod i siarad â ni a chytuno ar ffordd ymlaen. Nid ydym mewn sefyllfa i’w gwneud yn ofynnol iddynt weithredu yn y ffordd y byddem yn dymuno, ac y gwn y byddai’r Aelodau yn y Siambr yn dymuno heddiw. Mae wedi bod yn drafodaeth ddefnyddiol ar y pwynt hwnnw, mewn gwirionedd, oherwydd yn syml iawn, ni allaf roi gwarantau ynglŷn â system Lloegr.
Byddwn yn parhau i wneud newidiadau sy’n gwella GIG Cymru, ond ni allwn gael ein dal yn ôl gan Lywodraeth y DU sy’n gwrthod gwneud yr un peth naill ai ar yr un cyflymder neu i’r un cyfeiriad. Dyna realiti cael gwahanol systemau rhwng y ffiniau. Rwy’n awyddus, fodd bynnag, i wneud yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud, a chynnwys y pwynt a grybwyllodd Angela Burns ar rannu gwybodaeth am gleifion. Mae mater yno ynglŷn ag ansawdd y gofal y mae pobl yn ei gael.
Nid yr hyn rydym yn ei wneud yn awr yw’r her. Yr her yw beth y gallwn ei wneud i wella’r hyn sydd gennym ymhellach. Rwy’n hapus i weithio gyda GIG Lloegr i wella canlyniadau, ond wrth gwrs, mae’n galw am bartner sy’n barod i wneud hynny a lefel o ymddiriedaeth. Rwy’n hapus i weithio yn y ffordd honno yn awr ac yn y dyfodol er budd cleifion yng Nghymru a Lloegr.