Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda a chafwyd rhai pwyntiau pwysig iawn am rai o’r heriau sy’n deillio o gael dwy system iechyd wahanol ar y ddwy ochr i’r ffin, a’r canlyniadau i lawer o’n hetholwyr o ganlyniad i hynny, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru, fel y mae Russ George wedi ei ddweud, ac yn wir mewn rhannau o ogledd Cymru, fel y nododd Mark Isherwood a Janet, ac wrth gwrs mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio ychwaith, Oscar, eich sylwadau mewn perthynas â rhai o’ch etholwyr i lawr yng Ngwent.
Mae’r rhain yn faterion difrifol iawn ac wrth eu gwraidd mae cynllunio gwael, weithiau ar ochr Lloegr ac weithiau ar ochr Cymru, diffyg cyfathrebu rhwng sefydliadau iechyd ar y naill ochr i’r ffin wrth iddynt geisio cynllunio ar gyfer anghenion eu poblogaeth, a diffyg cydnabyddiaeth hefyd weithiau o’r gwahaniaethau yn nyheadau Llywodraeth Cymru o ran targedau a thriniaethau. Mae’n hawdd i chi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod gan bob bwrdd iechyd hawl i atgyfeirio ar draws y ffin—mae hynny’n hollol gywir—ond yn aml iawn mae yna broses gomisiynu sy’n rhaid i chi fynd drwyddi er mwyn comisiynu’r gwasanaethau ar draws y ffin, neu’r triniaethau hynny, neu atgyfeiriadau, mewn ffordd nad yw’n creu rhwystrau i gleifion yn Lloegr rhag cael eu hatgyfeirio i rai o’r ysbytai arbenigol hynny.
Yn aml iawn, mae fy mag post yn llawn o adroddiadau gan unigolion yn dweud eu bod yn cael problemau gyda mynediad at rai o’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rwy’n cydnabod bod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi ymrwymo i gynnal y cysylltiadau trawsffiniol â’r gwasanaeth iechyd ac mae hynny’n bwysig iawn. Yn sicr, nid oedd gennym yr ymrwymiad hwnnw pan oedd trefniant clymblaid gyda Phlaid Cymru yn y trydydd Cynulliad, lle y cafwyd penderfyniad polisi bwriadol i ddychwelyd gwasanaethau ar draws y ffin â Chymru a dod â’r holl gleifion yn ôl. Roedd hynny’n gwneud cam mawr â chleifion mewn sawl rhan o Gymru, y polisi penodol hwnnw, ond rwy’n falch fod y sefyllfa honno bellach wedi ei gwrthdroi, a bod pwysigrwydd cynnal y cysylltiadau gwasanaeth iechyd hyn yn cael ei gydnabod yn llwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ymadrodd pwysig arall: dywedodd na ddylai cleifion o Gymru gael eu trin mewn ‘modd llai ffafriol’ o ganlyniad i gael eu hatgyfeirio at ysbyty dros y ffin yn Lloegr. Ond y gwir amdani yw eu bod. Yng ngogledd Cymru, os oes claf yn cael ei gyfeirio gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr am lawdriniaeth orthopedig i ysbyty dros y ffin yn Lloegr, hyd yn oed os yw’r ysbyty hwnnw’n gallu eu trin o fewn y targed o 18 wythnos, sef targed amser aros y GIG yn Lloegr, maent yn aml iawn yn gorfod aros am 52 wythnos oherwydd bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud, ‘Ni chewch eu trin o fewn unrhyw amser sy’n llai na 52 wythnos oherwydd bod hynny’n gwneud cam’—[Torri ar draws.] Mae hynny’n hollol wir. Mae gen i gopïau o lythyrau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n hapus i’w rhannu gyda chi, os mai dyna yr hoffech ei weld.