Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch; gallwch agor eich llygaid yn awr. Y synau a glywsoch yw’r synau y mae pobl ddall a rhannol ddall yn eu clywed yn ddyddiol. Heb y gallu i weld, fel y gallwch ddychmygu, gall y synau hyn beri anesmwythdod mawr. Yn ddiweddar, euthum ar daith gerdded gyda mwgwd dros fy llygaid gyda chlwb i bobl sydd â nam ar eu golwg yn Nhrefynwy, a chefais brofiadau hynod o ddwys. Mae’r daith gerdded o bont Mynwy i ben uchaf y dref fel arfer yn syml, ond gyda mwgwd, roedd popeth yn wahanol. Ar ôl cyfnod byr o amser, roeddwn yn ddryslyd ac yn gwbl ddibynnol ar y bobl o fy nghwmpas am gefnogaeth. Roedd sŵn y traffig yn ddryslyd, ac roedd A-fyrddau manwerthwyr yn gwaethygu cymhlethdod peryglus y cwrs rhwystrau newydd hwn, fel y gwnâi’r llu o arwynebau gwahanol ar balmentydd a ffyrdd. Yn fyr, roedd yn gythraul o agoriad llygad, os mai dyna’r ymadrodd cywir. Wrth gwrs, roeddwn yn gallu tynnu fy mwgwd ar ôl i ni gyrraedd diogelwch cymharol tafarn Punch House ar ddiwedd fy nhaith, ond gwnaeth i mi feddwl, ‘Beth am fy ffrindiau newydd nad ydynt yn gallu gwneud hynny?’
Y rheswm dros y ddadl hon yw mai’r wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mae llawer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y wlad i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y llygaid a chael prawf llygaid. Rwy’n credu bod y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd wedi cael prawf llygaid ei hun yn ddiweddar, ond nid yw un o bob 10 o bobl yn cael prawf llygaid rheolaidd o hyd. Mae yna lawer o bobl nad ydynt yn sylweddoli y gallai eu golwg ddioddef yn y tymor hir, a bod modd osgoi 50 y cant o achosion o golli golwg drwy ganfod a thrin yn gynnar. Dylai pawb gael prawf llygaid bob dwy flynedd. Os oes gennych ddiabetes neu hanes teuluol o glawcoma, dylech gael prawf bob blwyddyn.
Mae colli eich golwg yn effeithio ar bob rhan o’ch bywyd. Dyma’r synnwyr y mae’r rhan fwyaf o bobl fwyaf o ofn ei golli. Rwy’n mynd i siarad ychydig yn awr am y gwahanol bethau y mae pobl ddall a phobl rhannol ddall yn eu profi yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a sut y gall llunwyr polisi wneud hyn yn well i bobl sydd wedi colli eu golwg.
Os nad ydych yn gallu gyrru, eich unig ddewis yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhywbeth a all fod yn anodd am sawl rheswm, nid yn lleiaf am nad yw gwybodaeth mewn safleoedd bws yn cael ei darparu yn y fformatau mwyaf hygyrch yn aml. Yn 2015, canfu Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion Cymru ac ymchwil Guide Dogs Cymru ar gyfer ‘Dewch gyda ni’ fod llawer o broblemau’n wynebu pobl ddall a rhannol ddall wrth iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus: digwyddiadau fel anghwrteisi i deithwyr rhannol ddall am godi llaw i stopio’r bws anghywir am ei bod yn rhy anodd gweld y rhif mewn pryd. Yn aml, bydd person dall neu rannol ddall yn dysgu llwybr taith i’w galluogi i fyw’n annibynnol. Os na chânt gymorth i ddod o hyd i’w stop, neu os caiff cyhoeddiadau sain eu diffodd, gall pobl yn hawdd iawn gyrraedd y lle anghywir ac efallai na fyddant yn gallu teithio’n annibynnol o gwbl mwyach. Mewn ardaloedd gwledig, mae gwybodaeth mewn safleoedd bws yn aml yn hen neu’n rhy fach neu wedi’i threulio gan y tywydd. Mae gwasanaethau bws gwledig yn hollbwysig i bobl ddall a rhannol ddall nad ydynt yn gallu gyrru. Rhaid diogelu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Nid yw datblygiadau newydd bob amser yn ystyried anghenion pobl sydd wedi colli’u golwg. Gall adeilad gyda nenfydau gwydr hyfryd fod yn ffasiynol ar y pryd, ond gall achosi problemau i bobl â nam ar eu golwg gan y gall y goleuni achosi anawsterau i’r llygaid o ran deall y llwybr drwy’r adeilad. Mae hon yn sefyllfa frawychus iawn a pheryglus hefyd i rywun â nam ar y golwg. Roedd ailddatblygu gorsaf fysiau Aberystwyth flwyddyn neu ddwy yn ôl yn golygu bod yn rhaid i chi groesi llwybr bws a allai fod yn dod tuag atoch er mwyn mynd i mewn i’r orsaf, heb balmant botymog defnyddiol, ac roedd yn hynod o beryglus. Mae hyn bellach wedi’i gywiro, diolch byth, ond rhaid cael mwy o ddealltwriaeth ar y cychwyn o egwyddorion dylunio diogel mewn datblygiadau cynllunio a pholisi sydd i ddod.
Mae llawer o bobl yn cysylltu mynd yn ddall â henaint, ond y gwir amdani yw bod llawer o bobl yn cael eu geni â nam ar eu golwg. O’r 106,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw â nam ar eu golwg, amcangyfrifir bod 1,935 o blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yn eu plith. Mae plant sydd â nam ar y golwg mewn perygl o gael canlyniadau gwael, gan fod 80 y cant o ddysgu yn weledol i blant sy’n gweld yn iawn, a dyna pam y mae angen deall pa gymorth ac addasiadau ychwanegol sydd eu hangen ar blant a aned gydag unrhyw nam ar eu golwg er mwyn sicrhau bod addysg yr un mor hygyrch iddynt ag i’w cyfoedion sy’n gallu gweld.
Gan fod plant sydd â nam ar y golwg yn dysgu’n wahanol, mae’n hanfodol fod athrawon arbenigol sy’n deall hyn yn gallu cefnogi athrawon a dysgwyr. Mae ymchwil a wnaed gan RNIB Cymru wedi dangos bod nifer yr athrawon sydd â’r cymhwyster addysgu ar gyfer yr arbenigedd hwn wedi bod yn lleihau wrth i athrawon gyrraedd yn agosach at oed ymddeol heb fod athrawon cymwys yn dod yn eu lle. Mae’r cymhwyster ar gyfer addysgu plant â nam ar eu golwg wedi cael ei wneud yn orfodol yn Lloegr. Mae’r unig brifysgol sy’n darparu’r cwrs ar hyn o bryd yn y DU yn Lloegr ac nid oes digon o lefydd ar gael, felly ni roddir blaenoriaeth i dderbyn athrawon o Gymru ar y cwrs hwnnw. Mae hefyd yn hanfodol fod cyfundrefnau arolygu ysgolion yn monitro darpariaeth cymorth arbenigol ledled Cymru.
Rydym ar drothwy cyfnod pwysig yn natblygiad polisi anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, a dyma’r adeg pan allwn wneud gwahaniaeth go iawn i ddysgwyr â nam ar eu golwg. Rhaid i’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sicrhau hyfforddiant dysgu arbenigol gorfodol ar gyfer staff sy’n addysgu pobl ifanc ddall a rhannol ddall.
Os caf droi at iechyd, gan fod y rhan fwyaf o gyflyrau colli golwg yn rhai dirywiol ond hefyd yn rhai y gellir eu trin, a chan fod modd atal unigolyn rhag mynd yn ddall mewn rhai achosion, mae’n bwysig fod cleifion offthalmig yn cael eu hadolygu o fewn y GIG yn ôl amserlen dan arweiniad clinigol nad yw ond yn canolbwyntio’n unig ar yr apwyntiad cyntaf ond bod triniaeth lawn y claf yn cael ei monitro, gyda thriniaethau dilynol wedi’u cynnwys yn rhan o hynny. Ar hyn o bryd, nid yw’r targed amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ond yn canolbwyntio ar y diagnosis cychwynnol a’r driniaeth gyntaf. Nid oes targed ar gyfer apwyntiadau llygaid dilynol ac felly ni ellir rheoli’r risg i’r claf mewn modd digonol. Dyma pam y gallai targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad yw’n canolbwyntio ar y ffrâm amser glinigol fod yn niweidiol, gan ei fod yn tynnu sylw ac adnoddau oddi ar sicrhau apwyntiadau dilynol amserol.
Y ffaith amdani yw bod canlyniadau gwell mewn offthalmoleg yn mynd i arwain at ganlyniadau iechyd gwell yn gyffredinol a sicrhau arbedion. Er enghraifft, canfuwyd y gellid priodoli bron i hanner yr holl gwympiadau a brofir gan bobl ddall a rhannol ddall i’r ffaith eu bod wedi colli eu golwg. Mae pobl ddall a rhannol ddall angen mynediad amserol hefyd at wasanaethau adsefydlu. Os yw prif nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynd i gael eu gwireddu, yna mae’n rhaid i bobl ddall a rhannol ddall gael eu hasesu gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig a phrofiadol. Bydd asesiad arbenigol hefyd yn golygu y bydd pobl ddall a rhannol ddall yn gwybod pa gymorth sydd ei angen arnynt.
Mae elusennau yn y sector colli golwg yn pryderu fwyfwy am y ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Maent yn credu y dylai’r broses gomisiynu warantu bod swyddogion adsefydlu cymwys yn cael eu cyflogi mewn awdurdodau lleol. Y ddarpariaeth ofynnol a argymhellir yw o leiaf un swyddog adsefydlu fesul 70,000 o’r boblogaeth. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw hynny’n cael ei gyflawni, ond ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol, y gofynnir iddynt yn fwyfwy aml i wneud mwy gyda llai, yn ceisio darparu’r gwasanaeth gofynnol ar gyfer eu poblogaeth ac nid ydynt yn cynnal digon o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau bod anghenion mwy cymhleth rhywun sy’n colli eu golwg yn cael eu diwallu.
Ceir swyddogion cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru hefyd, i gynnig cymorth i bobl sydd wedi colli’u golwg lle y mae ei angen. Cânt eu cydnabod gan Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr fel rhan ganolog o’r tîm gwasanaeth gofynnol yn y clinig llygaid. Heb y cymorth cywir, gall colli golwg effeithio’n fawr ar rannau eraill o fywyd unigolyn, megis cwympiadau, arwahanrwydd, a’r gallu i ddal ati i weithio. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd gan yr RNIB ac a gynhaliwyd yn Ysbyty Singleton, Abertawe, drwy ddefnyddio methodoleg elw cymdeithasol ar fuddsoddiad, canfuwyd bod buddsoddiad o £1 yn y gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn sicrhau elw o £10.57 i gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, felly mae yna arbedion go iawn i’w gwneud.
Yn olaf, mae Lloegr newydd lansio safonau ar gyfer gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau yn y GIG. Daw hyn fwy na dwy flynedd ar ôl i Gymru wneud hynny, felly rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yma. Fodd bynnag, gyda phobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau mawr i’w gofal iechyd, mae angen gwneud mwy. Maent yn dal i adael yr ysbyty bob dydd yn ansicr faint o feddyginiaeth y maent i fod i’w chymryd, neu’n ansicr ynglŷn â’r cyngor a roddwyd iddynt. Yn yr ysbyty, byddai camau gweithredu syml fel newid yn lliw defnyddiau fel bod mwy o gyferbyniad rhwng bwyd a phlatiau, neu welyau a wardiau, toiledau a lloriau—mae’r rhestr yn parhau—yn atal cleifion rhag mynd yn llwglyd, colli eu ffordd neu gwympo; newidiadau syml, ond newidiadau a all gael effaith go iawn. Mae’r safon yn Lloegr yn cynnwys cosbi gwasanaethau nad ydynt yn sicrhau bod pobl â nam ar y synhwyrau yn cael gwybodaeth yn y fformat sydd ei angen arnynt. A yw’n bryd i ni yng Nghymru ystyried cynnwys rheoliad o’r fath yn ein safonau? Efallai y dylai adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ganolbwyntio mwy ar y mathau hyn o ddyletswyddau.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn gofyn i bawb ohonoch feddwl am y materion sy’n effeithio ar bobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mynychwch un o’r digwyddiadau os gallwch, a gadewch i bob un ohonom wneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn a cheisio gwella safon byw pobl â nam ar eu golwg sy’n byw yng Nghymru heddiw ac yfory.